Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■+Ä ^ttm gr ls0ol ^wt 8+- Cyf. 3.] HYDREF, 1897. [Rhif 34. COFIA'R FARN A FYDD. -O WNA'N llawen, wr, o fewn dy fro, \CJ A chwardd tra dalio'r dydd ; Nac ofna neb, ac na thrista, Ond cofia'r farn a fydd ! Mwynha bob pleser, myn dy chwant, Na ffrwyna'r trachwant rhydd ; Mewn rhwysg a gloddest treulia'th dda, Ond cofia'r farn a fydd ! Di'styra grefydd a phob da, A phoera'n wyneb ffydd ; Oddiwrth foesoldeb ymbellha, Ond cofia'r farn a fydd ! Myn bob difyrwch yn mhob man, Gwna'n ddiddan yn dy ddydd ; Mewn gwin a gwleddoedd llawenha Ond cofia'r farn a fydd ! Na wrando ar un cyngor cu, Na'r ymresymu sydd; Dirmyga'r ddeddf, a thor bob darn, Ond cofia'r farn a fydd ! Cais bob llawenydd, na Iwfrha, Ymhoewa, rhodia'n rhydd; Gwna orchymynion Duw yn sarn, Ond cofia'r farn a fydd I Y farn ! y farn ! y farn a fydd ! O ryfedd ddydd a ddaw ! Y farn ! y farn ! y farn a fydd ! A'th ddyry'n brudd mewn braw. Eben Fardd,