Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. 3.] MEDI, 1897. [Rhif 33. Y BACHGEN GWYDDELIG A'R OFFEIRIAD. BACHGENYN Gwyddelig, call, mirain, a mad, Ei fam o'r wir grefydd, ond Pabydd ei dad, Ewyllysiai gael myned i'r Llan gyda'i fam, Ond ei dad i'r Offeren a'i mynai yn ddinam ; Er hyny'n ddirgelaidd i'r Eglwys yr ai, A chwenych cael achub ei enaid a wnai. Y gweinidog a'i gwelodd, gwobrwyodd ei sel, Trwy roddi iddo Feibl, 'rhwn garai'n ddigel; Y tad yna'n orwyllt gan ddigter a aeth, Fe guddiodd y llyfr, ac fe'i triniodd yn waeth ; Fe'i golchodd yn aml a'r sanctaidd dwfr pur, Ond amlach fe'i cosbodd a gwialen a chur; Er hyny bob Sabboth i'r Eglwys yr ai, Achwenych cael achub ei enaid a wnai. Ond un boreu Sabboth íe fynodd ei dad Ei lusgo i'r Oíferen trwy drais a thrwy frad ; Pabyddion cyndynion gydlusgant mewn gwg, Gan erchi'r Offeiriad i faddeu ei ddrwg. " Na, na, myn'r Offeryn, 'does bendith un pryd " Ebai hwn, "cyn cyffesu'r pechodau i gyd." " Wel," ebai'r bachgen, gan ledrithio yn gall, " Pa faint yw y taliad ? " " Ond swllt," ebai'r Uall. " A raid i bawb dalu a chyffesu'n ddigudd ? " " Rhaid, pawb a broffesa'r wir Gatholig ffydd." ■" I bwy gwnewch chwi'ch cyfîes ? " " I'r Deon heb freg " ; M A ydych chwi'n talu ? " " Wyf, dri swllt ar ddeg." " A gyffesa'r Deoniaid ? " " Cyffesant i gyd, I'r duwiol Esgobion, a thalantyn ddrud," " A gyffesa'r Esgobion, gan dalu, ac i bwy ? " " Cyffesant, yn Rhufain, gan dalu eto fwy." "Wel, wel,"meddai'rbachgen, "peth rhyfeddiawn yw, A yw'r Pab yn cyffesu ? " " O ydyw, wrth Dduw " " A pha faint mae e'n dalu i Dduw am ryddhad ? " " O, dim," ebai'r Ofleiriad, " Duw a faddeu yn rhad." " Os felly " ebai'r plentyn, " y goreu oll yw, Mae'n abl i faddeu pechodau o bob rhyw, A pharod iawn hefyd, af fioau at Dduw, ■Caf arbed fy swllt, a fy enaid gaiff fyw." Glan Alun