Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

/ -+£ %mn qt Jsgol %nl R+- Cyf. 3.] AWST, 1897. [Rhif 32. "LILI'N MHLITH Y DRAIN." Treorci. WELAIS berth o ddrain colynog Gynt yn ymyl ty fy nhad, Lle'r ymgasglai'r cor asgellog I delori mewn boddhad ; Ac nid rhyfedd, yno'n gwenu Gwelid lili wylaidd, gain ; 'Roedd y lili 'n para 'n lili Er yn tyfu rhwng y drain. Llawn yw'r ddaear o wenwynig Ddrain, mieri gwyllt, a chwyn Anfoesoldéb, dirmygedig Yd^^w rhinwedd hyd yn hyn ; Ond cyfoda'i ben i fyny, Gwena'n hardd mewn llawer llain, Er nad yw ond megys lili Eto'n tyfu rhwng y drain. Beth oedd Joseph ac Abia, Y Tri Llanc, a Daniel gu ? A'r gaethforwyn fach yn Syria, Onid lili ydoedd hi ? Tan daioni oedd yn berwi Calon lawn yr eneth gain ; Yr oedd hithau'n para'n lili, Er yn tyfu rhwng y drain, Gwelwyd Iesu, 'r Ceidwad hawddgar— " Lili'r dyffryn," deg ei phryd, Yn mhlith duon ddrain y ddaear, A mieri pigog byd ; Ond blodeuai'n hardd er hyny, Ac fe wenai'n hudol gain, Nef a daear ato'n tynu, 1% lili, gwylaidd lili, Ydòedd Iesu'n mhlith y drain. Mathryfab,