Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■** %txm §r "Jaÿíl ^ttL %+■ Cyf. 3.] MEHEFIN, 1897. [Rhif 30. "AROS GYDA NI." (Cyflwynedig i David Scourfield, A.C., Ynyslwyd, Aberdar). MAE yr haul yn diffodd Yn y gorwel pell, Ac mae'r dydd yn darfod, Iesu, Feddyg gwell; Llosgi mae ein calon Yn dy gwmni di; Aros, Iesu tirion, " Aros gyda ni." Ti yw bara'r bywyd Ddaeth o'r nef i lawr, Ti yw gwir Ddiddanydd Plant y cystudd mawr ; Nef yw gwel'd dy wyneb, Iesu, Geidwad cu; Brenin trag'wyddoldeb, " Aros gyda ni." Neidiodd i fodolaeth Fydoedd wrth dy air, Derbyn r'wyt warogaeth Gan y Wynfa glaer ! Paid a myned heibio, Gwrando a'r ein cri; Ti sydd yn bendithio, '♦ Aros gyda ni." Hwyr gysgodion bywyd Sydd a'r daen yn awr, Mae ein haul bron machlud, Aros, Ie*u mawr ; Mae ein traed yn oeri Yn yr afon ddu ; Wrth, ac wedi croesi, " Aros gyda ni." Aberaman. Bürfab.