Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•+8 %mn çr J200I ^hL £*- Cyf. 3.] MAI, 1897. [Rhif 29. í GWEDDI GENETH FACH. UN diwrnod geneth fach I'w 'stafell ddirgel aeth, A thros ei gwefus fwyn Y weddi hon a ddaeth :— " Nis gallaf, Iesu mawr, Un modd dy weled Di ; Os ydwyt yma'n awr Llefara wrthyf fi." Llef ddistaw fain o'i mewn a glywai hi, "'Llefara'r fach, 'r wyfyn dy wrando di.' " Atolwg arnat wyf, O Iesu, ger dy fron I wneud dy drigfa byth 0 iewn y galon hon : Mae'r ffordd yn ddyrys iawn 1 blentyn fel myfi; O Arglwydd, rho dy law I'm harwain arni hi." *' Nac ofna ddim, ni chei di fod dy hun," A theimlai 'i llaw fel yn ei law yn nglyn. "Dywedant. Arglwydd, fod Y byw yn marw'n llawn ; Yr hen yn myn'd o hyd, A'r plant yn ieuanc iawn ; Caed fy rhieni fyw Am dro ill dau yn nghyd ; Beth wnawn heb dad na mam, Na chyfaill yn y byd ?" *' Nac ofna, blentyn, pa ddrwg bynag ddaw, Ni wnaf dy adael, cei fod yn fy llaw. O'r 'stafell allan aeth, A'i bron yn llawn o hedd, A llewyrch nefol yn Disgleirio ar ei gwedd,— " Mi welais Iesu, mam, Teimlais ei dyner law, A chlywais ef yn d'weyd Heb beri im' boen na braw, Nac ofna, blentyn, pa ddrwg bynag ddaw, Ni wnaf dy adael, cei fod yn fy llaw."