Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-+Ä %mn gr jjs00l £jtl. %*- Cyf. 3.] EBRILL, 1897. [Rhif 28. YR ENETH AMDDIFAD. MEWN carpiog wisg, daeth at fy nrws Enethig fach : 'r oedd ganddi dlws Fodrwyog wallt o eurliw pur, A llygaid du adroddent gur; Ei thraed oedd noeth, er bod pryd hyn Yr eira'n drwch dros bant a bryn : Amddifad oedd ; dioddefai gam Am nad oedd ganddi dad na mam. Y dagrau fwydai'i gruddiau llwyd Oedd iaith ei hangen mawr am fwyd ; Mewn goslef wan, dywedai hi, " Heb riaint wyf i wrando 'nghri; Y danchwa erch ysbeiliodd 'nhad, Hwn oedd i mi yn wyliwr mad, A mam ei chalon dorodd pan Rho'w'd 'nhad yn oer briddellau'r llan. " Unig a gwael ar faes y byd Wyf fi yn awr, heb gartref clyd ; Tosturi giliodd, caf bob cam Am nad oes genyf dad na mam ; 0 ! fyd, pa ddrwg a wnaethum i 1 gael fath driniaeth arw, ddu ? O ! angeu, d'wed, paham, paham Na chleddit fi cyn claddu 'mam ? " Pan ddelai'r hwyr, yr eneth dlos Ar fedd ei mam a dreuliai'r nos ; Fan hono'n wan, ond mewn iaith gref, Gweddiai Dduw am wrando'i llef; Ac ar ryw noswaith rewllyd, oer, Heb neb yn dyst ond canaid loer, Ei hysbryd hi i'r nef ro'dd lam, Oddiar ei bedd, i gol ei mam. Porth. Tywi,