Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■*Ä %mn gr fagol ^nl **■ Cyf. 3.] MAWRTH, 1897. [Rhif 27. TERFYSGWYR O AMGYLCH ADDOLDAI. |C\ERFYSGWYR o amgylch addoldai | y Paham y gwnewch ílinder i'r saint ? Rhowch heibio eich ffol ymddygiadau, Gan deimlo'r cyfleusdra yn fraint; Gwybyddwch beth fydd y canlyniad O rwystro plant Duw. yn ei Dy ; Eich rhyfyg, yn nydd y didoliad, Yn golled drag'wyddol a dry ! Mawr ddrwg yw ymddygiad anweddus, Yn mhobman o ddaear ein Duw, Ond O ! mor eithafol ryfygus, 0 amgylch ei gysegr yw ; Ymdeithio dros feddau sy'n cynwys Gweddillion anwyliaid mor gu, Andwyo'r gwelyau lle gorphwys Ffyddloniaid yr oesau a fu ! Mae'r saint ar y ddaear, yn haeddu Cael llonydd yn nhemlau yr Ior, Heb rwystro y bregeth na'r weddi, Na thaflu sarhad ar y cor; Wrth droi tudalenau'r Gair Dwyfol, Ceir pob cyfarwyddyd i fyw, Mor eglur a phendant yw'r i heol 1 ymddwyn o amgylch ty Dduw. Beth ddywed y Gair ? onid " Gwylia " ? Mae parch yn ddyledus i'r ty ; Derfysgwr rhyfygus ystyria, Mae Duw am roi rhybudd i ti; O ! "Gwylia" rhag ymddwyn mor anghall, A thori ar heddwch ei blant, Mae ef am dy weled fel arall, Ac am dy gydnabod yn sant. Fel gwello dysgyblaeth yr aelwyd, Aiff rhif y terfysgwyr yn llai, Mae rhiaint esgeulus pob cronglwyd Yn gyd-gyfranogion o'r bai; O'r plant esgeulusir, fel rheol, Y cyfyd terfysgwyr pob oes ; Am hyny, gwnawn ymdrech ddifrifol, I'w maethu yn nghrefydd y groes. Cwmtofach, Llanwrda. Daniel Jones.