Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-H? %mn çr lajjol £WL B+- Cyf. 3.] IONAWR, 1897. [Rhif 25. MYNYCHWN YR YSGOL SUL. BLANT Seion, ymrestrwn yn fyddin fawr gref, A byddwn deyrngarol i Frenin y nef; Mae'r diafol a'i luoedd yn brysur bob pryd Yn ymladd yn erbyn Gwaredwr y byd. Mynychwn yr Ysgol, ein braint benaf yw Cael dysgu'r ieuenctyd yn nghyfraith ein Duw ; Eu cymell i rodio yn llwybrau y nef, A rhoddi eu hunain yn llwyr " Iddo Ef." Mynychwn yr Ysgol, y mae yn llawn bryd I wneuthur a allom dros Brynwr y byd ; Fe roddodd E'i fywyd i lawr er ein mwyn, Gwnawn ninau ein goreu i "borthi Ei wyn." Mynychwn yr Ysgol yn ffyddlawn drwy'n hoes, A daliwn i fyny " Hen Faner y Groes," Dyrchafwn hi'n uchel fel gwelo pob rhyw 'R arwyddair sydd arni, sef, " Wele Oen Duw." Grefyddwyr difater, deffrowch at eich gwaith, Mae'r cerbyd yn nesu at derfyn ei daith ; Ofnadwy fydd deffro yn Ngorsaf y Glyn— Bydd tymor y gweithio ar ben y pryd hyn. VI. Ymroddwn i waith tra mae'n awr yn ddydd gras, A hauwn ryw gymaint o had yn y maes ; Ac yna pan rifir ein dyddiau i ben, Cawn fedi'n drag'wydd'ol mewn. gwynfyd. Amen. Llandudno (Fforddlas). Ellen Dayies.