Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■+Ä %mn çr ls00t ^nL 8*- Cyf. 2.] RHAGFYR. [Rhif 24. TAENELLIAD BABANOD. RHYW ddefod dda hynod yw hon yn ddiwad, Mae'n gwneuthur babanod yn blant i Dduw'r Tad ! Yn sanctaidd aelodau o Grist fel eu pen !! A gwiw etifeddion o'r nefoedd hardd, wen ! ! ! Ond gwae fydd i'r baban a gyraedd ei fedd, Heb gael ei daenellu ! mor hyll fydd ei wedd ! Ei gorff o*r tu aswy i'r eglwys deg, lan, A'i enaid truenus yn llosgi'n y tan ! Daeth cymun babanod a'u bedydd i'r byd, Drwy ferch y Pab bradog, o gylch yr un pryd, A chant o chwiorydd i'r rhai'n o'r un rhyw, Rhan fach a fu farw, rhan fawr sydd yn fyw. Mae bedydd, fel swper yr Arglwydd, yn rhan O'r efengyl dragwyddol, ac nid o'r ddeddf wan : Ufudd-dod ysbrydol personol y sydd Yn perthyn i fedydd, fel ffrwyth o wir ffydd. Fe allai gwna cred rhyw hen daid dan y gro, Neu ffydd rhyw hen fodryb grefyddol y tro ; 'Does gronyn gwahaniaeth : taenellwch eich mab ; Mae'r peth yn dda purion, mae'n perthyn i'r Pab. Gofynir i'r baban (rhagorol mor gall!) A fyni di gael dy fedyddio'n ddiball ? Atebwch, atebwch, atebwch, wr bach ! Mae'n cysgu, neu'n cintach, neu heb fod yn iach. O Gymru garedig, rho ymaith i gyd, Daenelliad plant bychain, a dwyllodd y byd : Gwyr ifainc, gwyryfon teg gwynion trwy'n gwlad, Rhowch lawen ufudd-dod i'r lan ordinhad. Dilynwch yr Oen a dywalltodd yn rhad, Dros wael bechaduriaid, ei enaid a'i wa'd ; Ganlynwch ei gamrau, cofleidiwch ei groes, Dysgleiriwch gan ras, a goleuwch yr oes. Parch. Benjamin Francis.