Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

■*Ä %mn ÿr lagd ^nt 8+- Cyf. 2.] HYDREF. [Rhif22. PARCH. JOHN HERRING, ABERTEIFI. (Dyfyniad o'i farwnad gan y Parch. D. Roberts, Trosnant.) O! Rhyfeddol oedd dy ddoniau i ddiddanu enaid trist, Trwy gyhoeddi mewn awdurdod anchwiliadwy olud Crist; Er mor galed oedd fy nghalon, llawer gwaith yr aeth yn llyn, Wrth dy glywed yn dyrchatu aberth mawr Calfaria fryn. 'R oedd holl ílodau per areithydd yn cyfarfod ynddo ef; Toddai tyrfa swrth a chysglyd, mewn mynydyn wrth ei lef: Synai'm hysbryd wrth ei glywed yn egluro petbau cudd; Nid oes heddyw ei gyffelyb o Gaergybi i Gaerdydd. Byddai weithiau'n Foanerges yn taranu'n uchel iawn, Nes y gwaeddai'r rhai caletaf o'u calonau, " Beth a wnawn ? " Wedi hyny fe gyhoeddai faith rinweddau'r aberth drud, Nes yr elai'n Haleliwia, moliant trwy y dyrfa i gyd. Ag arfogaeth nef fe'i gwisgwyd, fe'i cymhwyswyd at ei waith; Nid rhyw glemiau ar ei wyneb, nac ystumiau chwithig chwaith r Ond derbyniodd y deg talent, yn ol trefn yr arfaeth fawr; A deg arall 'nillodd atynt, cyn i'w haul ef fyn'd i lawr. Pan y byddai yn taranu, wele'r mellt, y mwg, a'r tan, Yn arogylchu'r anystyriol, nes eu gwneyd i dduo'u gran ; Yna brysiai i Galfaria, Ue mae sail y cyfiawnhad, Nes b'ai'r dyrfa oll yn gwaeddu, " Moliant, moliant am y gwa'd. Nid rhyw gomet gwibiog ydoedd, ond seren fawr, sefydlog, goedd : Fel yr haul yn ymddysgleirio yn nghanol ein cymanfa oedd : Cwmwl llawn o wlith y nefoedd yn dyhidlo'n byfryd iawn, Nes blodeuo'r pomgranadau, a chynyddu'r egin grawn, Ewch i bulpud Aberteifi, 'drychwch ar y Beibl mawr, Cewch wel'd argraff chwys a dagrau Herring arno ef yn awr: 'Drychwch hefyd ar y gruddiau serchog, hawddgar, sy'n y dref ; Treiglodd dagrau ganwaith drostynt wrth ei lais soniarus ef. O! mor felus oedd ei wrando, pan b'ai yn ei hwyliau mawr, A thrysorau'r groes yn disgyn, fel o entrych nef i lawr! Rhai a fyddai'n gwaeddu, " Diolch," rhai yn gwaeddu, " Beth a wnawn ? " Gwaeddai yntau, " Fe gaed bywyd ar y croesbren un prydnawn."