Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-+Ä %mn gr Isgol ^ttl. %+■ Cyf. 2.] AWST. [Rhif20. Y CARDOTYN. R ryw noswaith oer auafol, _ Yn unigedd gwyll y nos, ^ SÄ Pan ddisgynai'r eira perlog I brydferthu anian dlos, Min yr awel a anadlodd Drist ochenaid mynwes flin, Y cardotyn bychan hwnw Oedd yn rhynu yn yr hin. Willie y cardotyn ydoedd, Diymgeledd bleutyn mad, Oedd yn eilun plant 'r ardaloedd, Er ei fod heb fain a thad ; Plethai'i gwyn a si yr awel, A gusanai'i ruddiau llwyd, A'i goroni wnai yr heulwen, Pan yn hel ei daniaid bwyd. Enw gwag oedd cartref iddo, Ar ol blin ystormydd certh, Mam i'w garu nid oedd ganddo, Cartref hwn oedd bon y bertb ; Yno byddai'n taenu'i wely, Lleni'r nos o gylch ei ben, Engyl cariad yn ei wylio, Oedd y ser yn nhemlau'r nen. Gyn i'r haul i sychu emrynt Gwawr y boreu yn y nen, Nid cardotyn ydoedd Willie, Ond etifedd nefoedd wen ; Draw i gautau y nefol-wlad, Yn nghol angel aeth yu llon, Corwynt gana gerdd-farwnad üwch ei fedd yrochr hon. Porth. Towy.