Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Jform gr la^ol $hxL ft*~ Cyf. 2.] GORPHENHAF. [Rhif19, YR YSGOL SABBATHOL. LWYS yw gardd yn llawn o flodau Ar ddysgleirdeb toriad dydd, Y rhosynau yn ymagor, Perlau natur ar eu grudd ; Ond mil glwysach gan fy enaid Yw'r Sabbathol Ysgol fyw, Rydd hyíforddiant i bob oedran I iawn ddeall geiriau Duw. Y mae tyner su'r awelon Yn y goedwig yn llawn swyn, A boreuol sain y fronfraith Yn telori yn y llwyn ; Ond llais plentyn bach diniwed Yn yr Ysgol yma yw Yr anwylaf sain a glywir Tra'n cynanu geiriau Duw. Ffrydlif ydyw'r Ysgol yma Darddodd o ffynonell hedd, l'n haddysgu yn Sabbathol, Treigla mewn urddasol wedd ; Mae ei dyfroedd yn risialaidd, Peraidd odiaeth yw eu blas, Golchant ymaith gamsyniadau A dyfrhant feddyliau cras. Tanbaid lewyrch hon ymddengys Fel rhyŵ heulwen ddysglaer fawr Ei chynyrchion a'i hael freintiau, Uwch rhifedi gwlith y wawr ; Yn ngoleuni hon canfyddir Mor llygredig ydyw dyn, Ac yn eglur iawn datguddir Hen íwriadau Tri yn Un. Glyn Garth P.O., JJandegfan. D. Owen.