Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-+R£tttn çr lagoi ShsL^ Cyf. 2.] CHWEFROR, 1896. [Rhif 14. "PWSS A'R BLODAU." *' 'Nawr Pwss," medd Ted, " bum yn yr ardd Yn ceisio bwnsh o snowdrops hardd; Eu rhoddi wnaf (na fyddwch gas) Yn bert o dan eich rhuban glas." Medd Pwss, gan edrych yn bur ddwys, " 'D yw cath yn rhoddi fawr o bwys Ar flodau tlws: ond os y'ch chi'n awyddu Eu gosod, parod wyf i isel blygu, Er plesio meistr bach sy'n arfer, Bob dydd, a bod i mi mor dyner "— Ar hyn rhodd sponc o ben y stol, 'E oedd Tango'n rhedeg ar ei hol; Gadawodd Ted a'r blodau yn ddisyfyd A rhedodd tuag adref am ei by wyd; Hen reol dda, a gredai Pwssy eisoes, A ddaeth i'w cliof, sef, " Dianc am dy einioes."