Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-*%%mn gr Isgal £uL%+- Cyf. 1] TACHWEDD, 1895. [Rhif 11. IESU YN Y CWRDD. Bancffosfclen. AE'B cyfarfod wedi dechreu, JBrawd yn darllen geiriau Duw, Ac mae llais fel o'r wybrenau Yn eu cario hwynt i'n cly w ; Mae'r meddyliau drwg yn dawel, Pob rhyw ofid gilia ffwrdd, A daw awel ar ol awel Dd'wed fod Iesu yn y cwrdd. Tia mae'r brodyr yn gweddio Mae rhyw wres yn llanw'r lle, Ae mae gwawl yn ymddysgleirio Trwy ffenestri gwych y ne'; Nid oes yma rith tywyîlwch, Hwnw wedi ffoi i ffwrdd— Dim ond dysglaer wyn brydferthwch Iesu mwyn yn llanw'r cwrdd. Ha! mae'r awr yn hapus, hapus, Ac eneidiau yn mwynhau ; Mae y wledd yn felus, melus, Ac mae pawb yn ymgryfhau ; Nid oes yma ddüryg llawnder, Mae digonedd ar y bwrdd; Pawb, yn wir, sydd yn ddibryder, Tra mae Iesu yn y cwrdd. Baw y dylanwadau nefol, Daw y pethau mawr i lawr ; Llifa y goleuni dwyfol Fel y Uifa'r ganaid wawr ; Ha ! mae'r enaid yn ei hwyliau, Cilia satan du i ffwrdd ; Ac nid oes ond gwir bleserau, Tra bydd Iesu yn y ewrdd. David Chables.