Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-^^mtt gr ÿs00Ì fhú.%+- Cyf. I.] HYDREF, 1895. [Rhif 10. DWYLAW MAM. Croesoswallt. (Efelychiad). DDWYLAW prydferth, hardd ! s Nid bach na gwyn y'nt hwy, A gwn na welwch ch'i ddim byd Neillduol yn y ddwy. Mi welais ddwylaw all'sent fod Yn nod cerfluniol fri, Ond yn y dwylaw crychiog hyn Mae harddwch mwy i mi. O ! ddwylaw prydfertb, hardd, Fu'u ddiwyd iawn o hyd ; O ! 'r gwaith caledfawr wnaent er mwyn I'r " plant" gael gwisgoedd clyd. 'Rwy'n wylo pau edrychwy'n ol Ar wawrddydd boreu oes, Pan yn eu cysged llechu wnawn Dan lawer awel groes. O ! ddwylaw prydferth, hardd ! Mae'u nerth yn cilio draw, Mae argraíf amser, poen, a gwaitb, Ar galon, gwedd, a llaw ; O ! gyfyng, gyfyng awr, A diwrnod pruddaidd, syn, Pan dan y blodau yn y pridd, .' Gorphwysa'r dwylaw hyu. Ond O ! tu draw i angau du, Lle mae angylion fyrdd, Mi wn ca'r dwylaw anwyl hyn Gangenau palmwydd gwyrdd ; Ar lan yr afon fywiol, glir, Mewn hafddydd hir, dinam, Caf ysgwyd llaw anfarwol, bur, A'i galw " Llaw fy mam." R. Mohhis.