Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^ ŵín çr ls0ol ŷhd.%*- Cyf. I.] MEDI, 1895, [Rhif 9. DAROSTYNGIAD CRIST. Hhoddwn yma gyfieithiad Iorwerth Glan Aled o linellau grymus a barddonol a gyuyrchodd y bardd Seisneg Chatterton pan nad oedd ond un-mlwydd-ar-ddeg oed. Creawdydd yr eangder mawr, Gad i'n haddoliad dd'od yn awr, Fel arogldarth ger dy fron ! Dan ryw annhreiddiawl gysgod du, Yn gorwedd ein heneidiau fu, Nes daeth dy lewyrch llou. Haul y gogoniant d'wyrai'n rhydd, Nes newid nos yn oleu dydd, Achwalu cyrayl nen ; O dan ddylanwad cariad cu, Gadawodd y palasau fry, Dysgleiriai uwch eiu pen ! Pa fodd mawrhawn y dydd, pan ga'w'd Ein Duw yn gwisgo marwol gnawd, Yn wrthddrych gwawd y byd— Pau glywyd Uais eirchengyl nef Yn seinio'n ber ei folawd Ef, Am iachawdwriaeth ddrud ? Ffurf wael gymerodd Duwdod mawr, Tylodi brofodd ar y llawr, Heb rwysg na balchder dyn ; Er teithio llwybr dynolry w, Ef ydoedd yn anfeidrol Dduw, A'i fawredd ynddo'i hun ! Er dirmyg, gormes, gwae a gwawd, Wrth deithio dyffryn dagrau'n d'lawd Yn ddyoddefgar bu : Yn ughanol ei erlidwyr cas Edrychai arnynt yn ei ras, A threm trugaredd gu !