Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^^rot gr ÿsjjal SWLS*- Cyf. I,] AWST, 1895. [Rhif 8. YR YSGOL SUL. f'R Ysgol Sul o deuwch, Bob un yn mhob ryw fan, —Chwi gewch yn hon oleuni I'ch tywys byfch i'r lan ; Hon yw yr Ysgol oreu, A feddwn ar y llawr, Mae hon yn barafcoad I'r tragwyddoldeb mawr. 'Rol i chwi ddod i'r ysgol, Cewch hanes Sancfc Fab Duw, Yn dod o'r fynwes ddwyfol I'r ddaear d'lawd a gwyw ; Yn gadael nef y nefoedd— Carfcrefle pob mwynhad,J I ddod i ganol t'iodi, I ganol pob sarhad. Cewch gly wed am y marw Fu ar Galfaria fryn, Cewch glywed am y gwawdio A ga'dd yr Iesu gwyn ; Cewch glywed am y t'wyllwch Orchuddiodd haul y nef, Wrth wrando ar yr Iesu Yn rhoddi'r olaf Lef. Cewch ddarllen am y Ceidwad Yn dod i'r lan o'r bedd, Ac am ei ymddyrchafiad I bur drigfanau hedd ; Cewch wel'd fod adgyfodiad I etifeddion Duw, I'r Ysgol Sul o deuwch I ddysgu'r ffordd i fyw. Pontardulais. Lücy Jenrins (15 oed).