Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^ fem çr Isgffl 9hxL%+- Cyf. I.] GORPHENHAF, 1895. [Rhif 7. MAE ARNAF EISIEU MARW. (Cyfansoddwyd y penillion tynerhyu gan y cadeirfardd enwog ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth.) ^AE aruaf eisieu marw Er mwyn i mi gael byw, $&£■ Y bywyd purach hwnw, A guddiwyd yn fy Nuw ; Mae arnaf chwant ymddatod Er mwyn bod gyda Christ, Lle nad oes neb mewn trallod, Lle nad oes neb yn drist. Mae arnaf eisieu marw, Und O ! mae arnaf ofn Yr ymchwydd rhyfedd hwuw Wrth groesi'r afon ddofn ; Mae'm dwylaw'n estynedig I geisio teimlo llaw Fy Ngheidwad bendigedig A'm dwg i'r ochr draw. iii. Mae arnaf eisieu marw I bechod, cnawd, a byd, Fel byddo marw'n elw— Y nefoedd ar ei hyd ; Mae arnaf eisieu marw Er mwyn i mi gael byw Y bywyd purach hwnw A guddiwyd yn fy Nuw. Tü©NO.