Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-^^írot gr Hsjjnl SML&+- Cyf. I.] MEHEFIN, 1895. [Rhif 6. TRYSORAU'N FFYDD." MAE nefol hyfryd wlad, Lle mae prydferth dy fy^Nhad. Uwch cymylau a gofidiaii anial fyd; Ac mae afon bywyd glir Byth yn llifo trwy y tir, Gan ireiddio Pren y Bywyd Nef o hyd : Hyfryd w]ad, hyfryd wlad, O ! am fod yn un o'i hetifeddion mad. 0 ! mae disglaer ddinas fry, Lle raae'r dinasyddion lu 011 yn rhodio yn eu gwisgoedd gwynion glan, Wedi gado'r anial mwy, Wedi dianc ar bob clwy', Wedi dechreu canu'r ber drag'wyddol gan: Dinas hedd, dinas hedd, O ! U,m rodio ei heolydd gwych eu gwedd. 0 ! mae cynhes gartref fry Gan fy Iesu yn Ei dy, Barotodd a'i haeddiant i'w anwyliaid Ef; 0 am fod yn wyn a glan 1 gael seinio'r fythol gan Byth yn " Uawer o drigfanau " ty y nef : Nefol dy, nefol dy, Lle cawn fythol seinio clodydd Iesu cu ! Cbleg Bemgor. Gwili.