Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-+%%txm gr fs00Í &vL%*- Cyf. I.] MAI, T895. [Rhif 5. GWEDDIO YR A, B, C. R foreu Sul hyfryd yn yr haf yr oedd bachgen bach o fugail ar y maes yn gofalu am ddefaid ei feistr. Wrth edrych i wahanol gyfeiriadau gwelai y bobl yn myned ar hyd y llwybrau i'r capel i addoli, a daeth i'w feddwl yr hoífai yntau hefyd fyned i dy Dduw i weddio- ar yr Arglwydd. Ond pe ca'i fyn'd beth a ddywedai ? Nid oedd erioed wedi dysgu yr un weddi, ac eto yr oedd yn teimlo y carai ofyn i'w Dad nefol am fendith, ac am help i wneud yr hyn sydd iawn, ac i wylio y defaid fel y dylai. Felly aeth ar ei liniau yn y man lle yr oedd. Pan oedd hyn yn cymeryd lle, dyg- wyddodd cymydog duwiol fyned heibio yr ochr arall i'r clawdd, a chlywai lais y bugail ieuanc yn adrodd yr A, B, C. Wrth edrych drwy y gwrych gwelai y bach- gen ba'ch ar ei liniau, a'i ddwylaw wedi eu plethu yn nghyd, a'i lygaid wedi eu cau, yn dweyd gydag arafwch difrifol, " A, B, C, CH, D," &c. "Beth-wyt ti yn wneud, machgen i?" gofynai ycym- ydog yn garedig. " Gweddio oeddwn i, syr," ebai yntau. " Gweddio ! ond i ba beth yr oeddet yn adrodd yr A, B, C?" " Wel, syr, yr oeddwn yn teimlo awydd gweddio am i'r Arglwydd gymeryd gofal o honof, a rhoi help i mi ; a chan nad oeddwn yn riiedru yr un weddi, daeth i fy meddwl, pe bawni yn dweyd y llythyrenau, y gwnai Ef eu rhoi wrth eu gilydd, a spellio yr hyn oeddwn i eisieu." " Bendith ar dy ben anwyl di, machgen i," meddai'r gwr da, " fe wna hefyd; pan mae'r galon yn siarad yn iawn, all y gwefusau ddim llefaru o'u lle."