Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

•*$%mn çr Isgol 9hxL%+' Cyf. I.] EBRILL, 1895. [Rhif 4. YR WYN BACH. ffifà|YMA ddarlun o amaethwr cyfoethog yn edrych ì^t ar ei wyn. Mae yn cael boddhad mawr wrth feddwl am yr adeg y derbynia arian da am danynt. Mae pawb yn caru gweled wyn bach. Mor falch ydym pan welwn oen gyntaf: y fath hyfrydwch yw gwylio chwech neu saith o honynt yn prancio ar y ddol. Cofiwn y byddai plant Sir Aberteifi yn fawr eu helynt yn nghylch pa un ai edrych tuag atynt ai oddiwrthynt y byddai yr oen cyntaf a welent. Os ei ben ganfydd- ent gyntaf, dyna " lwc;" os ei gynffbn, " dim lwc." Byddai ofergoelion plentynaidd fel yna yn peri gofid i rai, a llawenydd i eröill. Cofied ein darllenwyr pan yn ymddifyru gwylio symudiadau yr wyn am y lle arnlwg sydd i'r " oen " yn yr Ysgrythyrau. Gwaed " oen y Pasc " ddyogelodd Israel rhag yr angel dinystriol yn yv AiíFt; a gelwir Iesu Grist yn " Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd."