Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-*££mn çr lagol ShsL^- Cyf. I.] MAWRTH, 1895. [Rhíf 3. "MEWN MYNYD." ddeuaf mewn mynyd. Dyna ateb John a Mary pan y mae eu mam yn galw arnynt. Ychydig bwys roddir ar " fynyd." A yw ein darllenwyr wedi meddwl gymaint y mae mynyd yn ei olygu ? Byddai yn werth i ni sefyll ac ystyried ambell dro beth sydd yn cymeryd lle "mewn mynyd." Yn y darn byr hwn, a __________ gymer fynyd i fyned drosto, gospdwn gerbron ychydig bethau a ddygwyddant mewn mynyd. Mewn mynyd yr ydym yn cael ein cario dair milldir ar ddeg yn nhroad dyddiol y ddaear o gylch ei phegwn. Ac yn ymdaith fawreddus y ddaear o amgylch yr haul cludir ni yn mlaen un fil a phedwar ugain (1080) o filldiroedd mewn mynyd. Dyna deithio lled gyflym, onide ? Nid yw hyna, wedi'r cwbl, yn ddim ond arafwch o'i gymharu a chyflymder y pelydr goleuni yna sydd yn awr yn cael ei adlewyrchu yn y drych. Y mae hwna mewn mynyd wedi teithio y pellder mawr o un fil- iwn ar ddeg, un cant, a thri ugain o fìloedd (11,160,000) o filldiroedd. A chymeryd y byd i mewn, y mae pedwar ugain o fabanod yn cael eu geni mewn mynyd, ac mewn mynyd y mae tua yr un nifer o fodau dynol yn ocheneidio eu íFarwel i'r ddaear, ac yn gwynebu y byd tragywyddol. Y mae y swn iselaf sydd yn disgyn ar ein clust wedi gwneud chwe chant, pedwar ugain a deg (690) o ddirgryniadau (vibrations) mewn mynyd, tra y mae y seiniau uchaf yn cyrhaedd atom ar ol gwneud, mewn mynyd, ddwy filiwn, dau cant, ac wyth ar ugain o filoedd (2,228,000) o ddirgryniadau. Byddai yn dda i ni ddysgu gwneud yn fawr o'n mynydau. " Gan brynu yr amser." c