Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^^mtt çr ls00l $hxL%+' Cyf. I.] IONAWR, 1895. [Rhif 1. CYFARCHIAD Y GOLYGYDD. |R gais unfrydol Pwyllgor Undeb Bed- yddwyr Llanelli a'r Cylch yr ydym gyda chryn bryder wedi ym- gymeryd a golygu Seren yr Ysgol Sul. Amcan ein cyhoeddiad yn benaf fydd dyddori ac addysgu plant ein Hysgolion Sabbathol. Y mae y cylchgronau sydd eisoes ar y maes yn darparu yn rhagorol ar gyfer y ________ dosbarthiadau hynaf. I'r bobl ieu- ainc feddylgar sydd yn dilyn y gwersi, y maent yn bob peth ellir ddymuno. Er hyny, cydnabyddir yn lled gyffredin, a theimlir hefyd o'r herwydd, nad yw y wasg Fedyddiedig yn Nghymru yn trefnu fel y dylid ar gyfer ein plant ieuengaf. Pan ar ymweliad dro yn ol a glan y mor gwelem bysgodwyr yn y fan draw yn tynu rhwyd fawr i dir. Cyfeiriasom ein camrau tuag atynt. Tynent yn nghyd wrth y rhaffau, a daeth y rhwyd o'r diwedd i'r golwg yn cynwys helfa fawr o bysgod. Fel yr oedd yn cael ei chodi a'i llusgo drwy'r dwfr bâs, canfyddem ugeiniau a chanoedd o fan bysgod yn dianc yn ol i'r dyfnder. Wedi galw sylw hen forwr at y mater, dywedodd dan chwerthin, " O î rhai bach ydynt; nid ydym am eu dal nhw. Mae'r rhwyd wedi ei gwneud o bwrpas i ddal rhai mawr." " Dal rhai mawr " oedd mewn golwg. Onid yw yn wir, i ormod graddau, am gyhoeddiadau rhagorol y Bedyddwyr yn Nghymru eu bod wedi eu gwneud " i ddal rhai mawr ?" Cyflwynir y cylchgrawn hwn i sylw Ysgolion Sabbathol a theuluoedd ein gwlad fel un wedi ei fwriadu i gymeryd gafael yn nghalon a deall " y rhai bach," drwy eu hyfforddu yn addysg ac athrawiaeth yr Argíwydd. Yr ydym am i'r Seren hon, fel ei " Seren Ef" gynt, dywys plant Cymru i Bethlehem i addoli yr Hwn a anwyd yn Geidwad.