Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYNNIWEIRYDD, <ftf)g&&mmaít?) $v ¥0golion £a&&ot!)ol. IÌHÍF. III. MAWRTH 1834. Cyf. I. DARLTTH AR LESAWL EFFEITHIAU Y BIBL GYMDEITHAS FRYTANAIDD A THRAMOR. Er raòr enwog a defnyddiol yr ymddengys llawer o'r cymdeithasau a sefydlwyd ae a sefydlir yn ngwahanol barthau Ewropa, etto, pe pwysid hwynt yn nglorianau diduedd- rwydd a chyfiawnder, anghenrhaid fyddai rhoddi y flaenoriaeth i'r Bibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Er cymmaint yw llesoldeb y " Gymdeithas er taenu gwybodaeth gristionogol," ac er cymmaint o ddaioni a gyfranir o'i llaw hael- îonus, etto, nid yw y cyfan mewn oydmar- iaeth i eiddo y Gymdeithas Fiblaidd, ond megis y tamaid Ueiaf a ellir ei gynnyg i'r newynog, neu y goleuni lleiaf a ellir ei roddi i'r tywyll. Ond am y Gymdeithas hon, y mae ei gwrthddrych, sef y Bibl, yn " wledd o basgedigion breision ac o loyw-win pur- edig" yr hon wledd a amcenir ei rhoddi ganddi o flaen holl afradloniaid newynllyd y bydysawd. Mae yu hon " Haul y cyf- iawnder gyda meddyginiaeth yn ei esgyll," yn tywynu yn ei belyderau disglaeriol, heb un cwmmwl i attal ei lewyrch, nes yw miloedd o rai ag oedd yn eistedd mewn tywyllwch wedi dyfodi weledgoleuni mawr; 'ie, ymae ei " ìyfeddol oleuni ef " wedí cyfodi ar fyrdd a mwy, o rai oedd yn eistedd yn dawel " yn mro a chysgod angau." Nid yw holl ysgrifeniadau goreu dynion, o'u cydmaru â'r Bibl, oud megis yr auilyg- K' iadau cryfaf o anmherffeithrwydd. Mae pwysfawrogrwydd cynnwysiad y llyfr ben- digaid hwn, gwerthfawrogrwydd ei addysg- iadau, gogoneddusrwydd y rhai a gymmer- ant eu rheoleiddio ganddo, ynghyd a'r an- ffaeledigrwydd sydd yn argraphedig ar bob rhan o hóno, yn dangos i ni oll yn amlwg, ei deilyngdod o gael ei gyfenwi yn ' Ddwyfol Ddatguddiad,' a'i fod yn rhyglyddu, yn y lledaeniad o hóno, fanylaidd sylw a gwresog dderbyniad a chefnogiad pawb creaduriaid rhesymol. Er fod tywysog llywodraeth yr awyr wedi, ac yn anfon allan ei weiuidogion deistaidd i ymdrechu gwadu ei ddwyfoldeb— er iddo anfon ei genhadon atheistaidd î ym- egnio gwrthbrofi bodolaeth yr Awdwr o hónó —er annog y twyllwr Mahometanaidd i lunio yr Alcoran melldigaid, ac anfon gau-bro- ffwydi i ddysgu felly yn erbyn y gwirionedd, etto, megis nad yw ymddangosiad cymmylau ar yr wybren yn peri un math o ddifriwch i'r haul, felly ni phery holl ysgrifeniadau deistaidd, nac atheistaidd y byd, y rhai sydd. fel cymmylau caddugol, byth un gradd o ddifriwch i Haul y cyfiawnder; ond, dÿ» noetha ei oleuni ysplenydd ef warth eu noethder hwy, nes y gorfydd iddynt gìlió yu fuan i'w cell uffernol, heb feiddio gẁîí- euthur eu hymddangosiad mwy. :--« • Pwy all feddwl am fynydyu àín yr amser