Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYNNIWEIRYDD, ®Öî>títnitmattí) »r ¥*goUon £afiöotí)OI, Rhif. ir. CHWEFROIt 1834. Cyf. I. PRAWF CRISTIONOGAETH. Mae dyu o ran ei gyfausoddiad yn un y mae yn rhaid iddo gael rhyw grefydd. Ym- ddengys y gwirionedd o hyn os craffwn ar egwyddorion y natur ddynol, a hanesiaeth y byd. Y mae dyn yn meddu ar deimlad o rwymedigaeth foesol, dirnadaeth am y gwahaniaeth rhwng cam a chymmwys, teim- ladau o ahesrnwythder a braw, neu ynte ym- foddloniad wrth adsylwi ar ei ymddygiadau, ofnau cael ei gospi wedi y troseddo, a thuedd i dalu ymostyngiad crefyddol i ryw wrth- ddrych gweledig neu anweledig. Y mae yn amlwg mai teimladau naturiol ac nid dam- weiniol yw y rhai hyn; oblegid bodolant mewn dynion yn mhob oes ac yn mhob gwlad; oblegid hyn ni chafwyd erioed yr un genedl, hen na diweddar heb fod ganddi ryw grefydd. Mae yr egwyddorion hyn wedi gwreiddio mor ddwfn na ellir byth eu symud. Gall dynion gael eu denu i adael eu hen grefydd a dewis un newydd, ond ni allant byth aros yn hir heb un grefydd. Cymerer oddiwrthynt un gwrthddrych addoliad, buan yr ymlynant wrth un arall. Os bydd iddynt golli gwybodaeth am y gwir Dduw, gosodant i fynu dduwiau o'u dyfais eu hunain. Mae hanesiaeth y byd yn dwyn tystiolaeth mor eglur i'r gwirionedd hwn, fel na ellir ei wadu. Yn awr y mae cyffredinolrwydd crefydd vn arddangos yn y modd egluraf fod yr egwydd- or yn un naturiol ac hanfodol yn nghyfan- soddiad dyn. Os yw yr annuwiaid yn tyb- ied y byddai iddynt wrth ddadymchwelyd Cristionogaeth ddiddymu pob crefydd, y maent yn dirfawr gamsynied. Pe gallent ddadymchwelyd Cristiouogaeth,byddai gan- ddynt waith anorphen wedi hyny, yn lle crefydd bur, addfwyn, dyner Crist, buan y caent eu hunain wedi eu hamgylchu gan goel-grefyddau mòr fryntion, twyllodrus, gwrthuu ac afresymol, ac a fagwyd erioed yu ngwely brwd Paganiaeth. Bydded iddynt edrych i'r byd Paganaidd, a sylwi ar y ffieidd-dra a'r trueni y mae hen goel-grefydd yn ei dal i fynu yn rhai o'r gwledydd pryd- ferthaf a mwyaf poblogaidd ar y ddaear. Bydded iddynt edrych ar dylwythau gwyllt- ion Affrica ac America, a^^lwi ar y caeth- iwed y mae coel-grefydd wedi dwyn y bobl hyn dano. Byddai i ddrygau mor fawrion yn fuan gynnyddu yn ein plíth ninnau, oni bai effeithiad iachusol Cristionogaeth. Ein cyn-dadau oeddynt yn yr un sefyllfa isel a gresynus cyn iddynt ddyfod yn Gristionog- ion. Y mae yn wirionedd y dylid ei gy- hoeddi yn mhob man ar benau tai, mai y Bibl a'n gwaredodd o danawdurdod echryd- us coel grefydd. Ni bu gan AthnjiuMtb. un