Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

€YNNIWEIRYDD, <£$@&£titmaitf) pv ¥0golion £aẅbotl)Ol. Rhif. I. IONAWIt 1834. Cyf. I. PROFION O WIRIONEDD YR ATHRAWIAETH O FOD DÜW. INlD oes unrhyw destyn mor deilwng o fy- fyrdod y meddwl dynol, ag yw hanfod Duw- dod a'i gymmeriad. Yma y cawn ollwng ein holl alluoedd i weithredu hyd eithafoedd ym- cgu'iad, heb arswydo rhag dyhyspyddu y testyn byth; o herwydd mai môr anamgy- ffrediadol o ryfeddodau hawddgar yw. Llawer un a dreuliodd ei oes mewn dwys fyfyrdod ar ddirgel brydferthion natur, gan drystiaw llawer gyda hwy yn ei ddydd ; ond erbyn nesu o nos angau, y cyfan a ddiangent o'i wydd, ac ef a adewid yn unig a digysur: ond y neb a ymdreulio mewn myfyrdod ar Dduw a'i bríodoliaethau, a fwynhâ yr hyfryd- wch mwyaf o'i fyfyrdod yn ei fywyd, a gyf- nerthir drwyddi yn wyneb angeu, ac a dy- wysir ganddi i fwynhâd o wledd dragywyddol. Y naill sydd yn debyg i blant yn gwario eu hamser i chwilio am gragen brydferthach nac arall yn mysg mân gregin y môr; y Uall sydd megys cloddiwr medrus, mewn mwn-glawdd aur goWfiog, yn ychwanegu at ei olud syl- weddol bob dydd. Y mae y greadigaeth weledig, yn debyg i lyfr-gell lawn o lyfrau rhagorol, yn cynnwys ynddynt oludoedd o'r wybodaeth odidoccaf; eithr y mae mòr dy- well, na's gellir canfod i ddarllen un yn gywir, heb gymhorth y llusern o ddadgudd- iad dwyfol. Wrth lewyrch hon y gwelir mai teml fawr yw y byd hwn, wedi ei chyssegru at wasan- aeth yr uchel Ior, a'i chywreiniaw â cherfiad- au tystiawl o'i fod a'i fawredd ef; fel na's gall y dyn ystyriawl lai na chanfod ei law ef yn lluniad pob creadur, a chlywed ëi foliant ef yn ddadseiniedig drwy holl. anian, nes ỳ mae ei feddwl yn cael ei lenwi â pharch iddo. Mewn trefn i aflu profi y gwirionedd uchod o fod Duw, y mae yn anghenrhaid i ni brofi yn gyntaf oll, fod rhyw beth yn y byd heblaw a welir â llygagá^r. corph, yr hyn er na's gwelwn yr ydym yn 'ei addef. Fel hyn y mae y gwynt yn fath o hylif anwel- edig, etto yr ydym yn deall, ac yn credu wrth ei effeithiau, ei fod :—y tân ni's gwelwn, etto yr ydym yn credu ei fod wedi ei was- garu drwy holl naturiaeth yn y fath fodd, fel y gellir gweled ei effeithiau, drwy guro, neu rwbio y naill ddefnydd wrth arall; poen ni's gwelir, etto gwybyddir ei fod drwy deimlad; felly er na's gwelir Duw, gall pawb wybod ei fod wrth a wnaeth efe; ac y mae lluoedd oddiar brojiadjn gtcybod ei fod. Y mae yn amlwg hefyd fod yr holl bethau a welir, dan lywodraeth rhyw un Bod galluog a doeth; yr hwn a fedda awdurdod ar bob peth, i beri iddynt oll gjdogwj'ddo, yu eu gwahanol weithrediadau, at jrr unrhyw am-