Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YB HAÜWB. Rhif 217.] RHAGFYR, 1907. [Cyf. XVIII. Y PARCH. THOMAS HUMPHREYS, Ysgrifenydd Newydd Undeb Ysgolion Sul Bedyddwyr Cymru. [gyda darlun.] Gwylier troellau taith ei fywyd gyda mesur o fanylder, a gwelir yn berffaith eglur fod llaw y Crochenydd Dwyfol yn ei gyfaddasu i'w swydd bwysig fel Ysgrifenydd holl drefniant Ysgolion Sul Bedyddwyr Cymru yn 1907. Ganwyd ef yn Pwll- heli, Medi 22ain, 1848. Ei rieni oeddynt Zechariah ac Ellen Humphreys, Ring's Head Street, Pwllheli; ond inagwyd ef yn benaf yn ei fachgendod yn nhŷ ei daid, Thomas Jones, fasnachai mewn bwyd a diod yn ol arfer y cyfnod. Capel, pregethwyr, crefydd, seiat, cwrdd gweddi, Beibl, trefniadau eglwysig, oedd y pethau welai ac y glywai yno yn y cyfnod hwnw. Clustfemio wnelai y bachgen hwn am yr holl glywai gan ac am y Parchn. Morris J. Williarns (U.D.A. wedi hyny); W. Roberts, Fforddlas; John Jenldns (o Cilfowyr) fugeiliodd Pwllheli, Llanfachraeth, a Phenybont; am O. Davies, Lewis Jones (wedi hyny Treherbert) ; ac am William Jones, Chemist, perchenog y " William Carey," y llong-genadol enwog; am Hugh Tegai (A). Bu yn yr ysgol gyda William George yn British School, Troedyrallt, Pwllheli, tad yr Anrhydeddus D. Lloyd George, A.S., ac yn gwmnìwr i'r Ysgolfeistr am gyfnod o flwyddyn, a dywedodd Mr. W. George wrth y Parch. Richard Lloyd—brawd ei wraig—mai pregethwr fyddaiT.H. yn ol pob arwydd, a gwir fu'r broffwydoliaeth. Cafodd T.H. ei fedyddio gan y Parch. Lewis Jones yn Ebrill, 1862, cyn ei fod yn llawn i4eg oed. Hwn oedd bedydd cyntaf gweinidogaeth Lewis Jones yn Pwllheli. Wedi ei holi yn fanwl yn y gyfeillach, trodd Lewis Jones a gofynodd yn sydyn i Mr. Michael Roberts, y Chemist—meistr T.H.—os oedd ganddo ef wrthwynebiad iddo gael ei fedyddio, o bwynt cyssonedd ei fnchedd fel egwyddorwas yn y shop. Atebodd yntau, "Nac oes dim ond pob boddlonrwydd." Felly dacw ef wedi boddio yr Eglwys mewn gwybodaeth a buchedd dda, ac felly y ffordd yn glir i ddylyn Crist. Bedyddiwyd ef yn yr Hen Gapel. Nid oedd bedyddfa yn y newydd. Yr oll fedyddiwyd yr un adeg wedi huno. Yn yr " Athraw " am Hydref, 1864, ceir ei hanes gydag Undeb Ysgolion Sul Cylch Pwílheli yn adrodd, yn areithio, ac yn ymroddi yn egniol er hyrwyddo yr Ysgol Sul. Gwnaed ef yn Ysgrifenydd Cwrdd Ysgolion Sui Cylch Pwllheli. Ei araeth gyhoeddusgyntaf oedd yn Nghwrdd "Cyfarfod Ysgol" Chwar- terol y Cylch gynnelid yn Llanaelhaiarn, y brodyr Aubrey