Skip to main content

YR HAUWR Rhif 211.] MEHEFIN, 1907. [Cyf. XVIII. MR. ISAAC JENRINS, HEBRON, DOWLAIS. [gyda darlun.] Gorchwyl hawdd a dymunol yw ysgrifenu byr hanes i'r brawd tyner, tawel, addfwyn a hynod o ysprydol ei dueddiadan, sydd a'i enw uchod. Un o feibion tangnefedd yw ; abertha bob peth er mwyn heddwch ; hoffir ef yn fawr gan yr eglwys, ac edmygir ef gan bawb a'i adwaen. Ganwyd ef mewn ffermdy o'r enw Llewishely, o fewn dwy filldir i Fynnonau iachusol Llanwrtyd. Mab ydoedd i Charles a Ruth Jenldns. Ganwyd ef Rhagfyr, 1847. Bu iddo amryw o frodyr a chwiorydd, y mae rhai o honynt wedi blaenu i fro yr aur delynau, ond nis gallwn atal rhag enwi y caredig Charles, oedd yn anwyl gan ac yn ffyddlon yn Rehoboth, Briton Ferry, a brawd arall iddo yw y Parch. J. Onfel Jenldns, Penartb. Bedyddiwyd ef pan yn dra ieuanc, yn afon Ainon, gerllaw Salem, Llangammarch, gan y Parch. — Jones, gweinidog Salem ar y pryd. Yn y fìwyddyn 1867, yr ydym yn ei gael yn llawn nwyf yn gwneyd ei gyfeiriad tua Dowlais i swn dwndwr masnach ac ergydion morthwylion y gwaith haiarn. Ymael- ododd yn Nghaersalem, a bu yno am ychydig yn aelod ffyddlon a defnyddiol iawn. Yn y rlwyddyn 1873, yr ydym yn ei gael yn uno mewn glân briodas â Miss Mary Griffiths, merch i Richard a Martha Hnghes. Bu ei thad yn ddiacon ac yn drysorydd hyd ei fedd yn Hebron. Y mae Mrs. Jenkins wedi profi ei hun yn wraig ragorol iddo. Priodwyd hwy gan y Parch. E. Evans, Caersalem, yn Hebron. Achlysurodd y briodas iddo newid lle ei addoliad; ymaelododd yn Hebron, ac y mae wedi bod yn un o'r aelodau ffyddlonaf. Un o ddeil- iaid selog yr Ysgol Sul ydyw, y mae wedi bod yn athraw am flynyddau lawer, ac hoffir ef yn fawr gan ei ddosparth, o herwydd ei ffordd lednais a boneddigaidd. Y mae ein brawd