Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YB HAUWE. Rhif 210.] MAI, 1907. [Cyf. XVIII. Y DIWEDDAR WILLIAM PARRY, Ty Hen, Caerceiliog, Sir Fon. [gyda darlun.] Ganwyd gwrthddrych penawd ein hysgrif, Chwefror, 1843, yn Mhlwyf Llantrisant, Sir Fon. Enwau ei rieni oedd John a Catherine Parry. Yn fuan wedi genedigaeth ein gwrthddrych ymadawodd y teulu i le o'r enw Penterfyn ger Ainon. Bu ei dad yn aelod ffyddlawn yn Ainon a,m fiynyddoedd lawer. Gan fod ein diweddar frawd yn un o amryw blant, gorfu iddo droi allan i weithio pan yn ieuanc iawn. Arferai, yn ystod blynyddoeddcyntaf ei lafur, weithio gydag amaethwyr y cylch. Yn y cyfnod hwn arferai gyrchu i gapel y Methodistiaid, a hyny o herwydd dylanwad amaethwyr Methodistiaid ar eu gweision a'u morwynion. Yn y flwyddyn 1864, priododd gyda Jane, merch John a Jane Roberts, Buarth, Bodedern, Sir Fon, teulu neillduol ac adnabyddus am eu caredigrwydd i weini- dogion y Bedyddwyr pan ar ymweliad â Bodedern. Bu i'n diweddar frawd a'i briod hoff bedwar-ar-ddeg o blant, naw o'r rhai hyn sydd wedi eu claddu. Ond er cymmaint o brofedigaethau gawsant drwy golli eu hanwyliaid, rhai o honynt yn fychain, ac ereill wedi iddynt bron orphen eu magu, daethant o'r profedigaethau i gyd gan ddweyd fel Job, "yr Arglwydd a roddodd, a'r Arglwydd a gymmerodd ymaith, bendigedig fyddo enw yr Arglwydd." Bedyddiwyd William Parry yn Bodedern, yn y flwyddyn 1865, gan y diweddar David Jones, gweinidog ar y pryd. Bu ein brawd yn aelod selog a gweithgar yn y lle hyd y flwyddyn 1879, pryd y symmudodd i fyw i ardal Caergeiliog, i ymgymmeryd a gweithio ar y London and North Western Railway. Ymaelododd yn Siloh, Caergeiliog, ac ymroddodd o ddifrif i waith yn nglyn a holl gylchoedd yr eglwys. Yn fuan wedi iddo ymaelodi yn Siloh, etholwyd ef yn flaenor, a llanwodd y swydd yn deilwng. Yr oedd o gymmaint o anrhydedd i'r swydd ag oedd y swydd o anrhydedd iddo yntau. O'i fedydd i'w fedd cymmerodd ddyddordeb dwfn a byw yn hoíl symmudiadau crefydd. Nodweddid ei feddwl gan gyflymdra a chraffder. Yr oedd o yspryd tawel a phwyllog. Llawer adeg y daeth ei bwyll a'i