Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUWE. Rhif 206.] \C\ IONAWR, 1907. [Cyf. XVIII. MRS. CATHERINE MORRIS, PENYGRAIG. [gyda darlun.] Cyflwynwn i ddarllenwyr Yr Hauwr ddarlun o wir foneddiges —un o ferched y Brenin, ac un o'r prydferthaf o'r merched. Gwaddolwyd hi â graddau eithriadol o ffeinder Cristionogol, ac adnabyddid hi íel un o'r cymmeriadau mwyaf pur a charuaidd. Dan ei chronglwyd hi y gwnaeth y Parch. H. Jones, Bethel, Llanelli, ei gartref yn ystod blynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth yn Mhenygraig, a bu yn eilfam anwyl iddo. Bu yn dda gan ugeiniau o weinidogion gael eistedd wrth ei bwrdd, a llettya ar ei haelwyd syber a chlyd. Gweiniai hithau arnynt fel un yn gweled y Meistr yn y gweision; fel un yn gweini arno Ef ynddynt hwy. Yr oedd yr hen chwaer yn weddw i'r brawd egniol a brwd, Evan Morris, fu am gynnifer o flynyddoedd yn gymmaint addurn i'r ddiaconiaeth yn Soar, ac felly yn gymmaint cyn- northwy i'r weinidogaeth, ac yn gymmaint bendith i'r eglwys. Yn anfynych y ceir dau cyn lawned o yspryd y nef ag oedd Evan Morris a'i briod. Fel y ddau gerub yn y sanéteiddiolaf, a'u trem ar y drugareddfa yr aeddynt hwythau, a meddylfryd eu calon yn sefydíedig a'r Grist a'i achos. Yn wir nid rhyfedd fod Evan Morris yn gystal dyn gan fod ei briod yn gystal dynes. Arosodd Mrs, Morris yn ein plith am yn agos i chwech mlynedd ar ol ytnadawiad ei phriod, a threuliodd y blynyddoedd hyny mewn gwendid mawr a chystudd mynych. Gwelsom ynddi effeithiolrwydd gras yn gwneyd ei berchenog yn dang- nefeddus a siriol yn nghanol afiechyd. Yr oedd y gwir fywyd ynddi mor gryf fe! na wnai gyfrif o angeu. Yn nghylch myned i'r nef, yr oedd cymmaint o'r nef ynddi fel nad oedd perygl iddi golli y ffordd. Mae anian yn siwr o'r siwrnai.