Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

142 Y CYLCHGRAWN un o'r rhai ffyddlonaf. Yr oedd hefyd yn gantores dda. Enillodd yr Intermediate Certificate yn y Solffa pan nad uedd ond naw mlwydd oed. Y mae hefyd chwech o dystysgrifau wedi eu henill ganddi yn Arholiad Sirol yr Ysgolion Sabbothol, Bob tro yr ymgeisiodd, aeth trwodd yn llwyddianus iawn. Bwriadai sefyll yr arholiad eleni ; yr oedd wedi parotoi yn dda ar ei gyfer, ond o fewn llai na thair wythnos i ddydd yr arholiad, cafodd ei galw i sefyll arholiad annhraethol bwysicach, a diau genym ei bod wedi ei basio with honours. Cafodd fynediad helaeth i mewn i dragwyddol deyrnas yr Iesu. Yn ddiddadl, bu marw yn elw iddi. Chwith iawn genym feddwl na chawn weled ei gwyneb byth mwy ar y ddaear. Ymgynullodd torf luosog i'r angladd, yr hwn a gymer- odd le y dydd Mercher canlynol i'w marwolaeth. Yr oedd y gweinidog- ion canlynol yn bresenol:—Parchn. W. Eichards, Maerdy ; T. Davies, Treorky; B. Watkins, Ferndale; D. Evans, Carmel; W. Williams, Pont- ygwaith; W. D. Morris a W. Hop- kin Jones, Cwmamman ; Mr. Evans (B) a Mr. Heory (A), Maerdy. Can- odd cor y lle mewn undeb a chor Penuel, Ferndale, amryw donau yn y capel, ar hyd y ffordd, ac hefyd ar ían y bedd. Bydded i ieuenctyd y lle gymeryd rhybudd, ac ystyried mai byr ac ansicr ydyw bywyd, a bod gwerth mewn byw yn dduwiol. Taened Duw pob dyddanwch ei aden dros y rhieni, y rhai sydd yn unig, ac mewn galar a thristwch dwfn am golli un mor dyner ac anwyl. Collasant eu hunig fab o'r blaen, yn y danchwa fu yn pwll y Maerdy, oddeutu saith mlynedd yn ol, fel erbyn hyn y maent wedi eu gadael yn unig iawn. Ond y mae Duwgydahwynt, agallant ymgysuro hefyd yn y gobaith gwynfydedig o gael cyfarfod â'u hanwyliaid mewn cartref lle na faidd y gelyn yn dra- gywydd gamu dros drothwy y drws. Un o'r Lle. Mrs. Elizabeth Rees, Burry PORT. Y chwaer hon oedd briod i Mr. David Rees, un o flaenoriaid eglwys Bethany, Burry Port, a merch i Mr. David Lewis, blaenor arall yn yr un eglwys, ond sydd fwy adnabyddusfel un o fiaenoriaid eglwys Llanpump- saint, am mai yno y treuliodd efe y rhan fwyaf o'i oes. Bu farw Mrs. Rees yn dra disymwth ac annys- gwyliadwy, boreu dydd Mawrth, Mawrth 7fed. Yr oedd yn lled wanaidd er ys blynyddoedd, ac yn cael ei blino yn fawr gan ddiffyg anadl. Methai fyned i'r moddion yn y capel, ond yn lledanfynych, ac anaml yr oedd yn gallu myned i'w gwely y nos; eto yr oedd yn ym- ddangos yn bur foddlongar ei medd- wl, a chrefyddol ei hysbryd, ar bob pryd. Yr oedd wedi cael ei chodi yn grefyddol o'i mebyd, a rhoes brawf da o'i gras yn ei goddefgarwch o dan bwys ei chystudd. Daeth ei hoes i'w therfyn cyn cyrhaedd o honi ei phedair blwydd a deugain. Gadawodd ar ei ol briod a thri o blant, dau o ba rai sydd yn bur ieuaìnc. Claddwyd hi yn mynwent Bethel, Pentre. " Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddiwrth eu llafur; a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt." Parch. Ezeciel Thomas, Aber- TAWE. Yn yr ail wythnos o fis Mawrth, daeth y Parch. Ezeciel Thomas i ben draw ei daith yn anialwch y byd hwn, ac aeth drosodd yn droed- sych i wlad yr addewid, gorphwysfa ei Arglwydd. Yr oedd yn 75ain mlwyddoed ynmarw. Bueigystudd olaf yn faith a phoenus, canys yr oedd y cancer wedi ymafiyd ynddo; ac ymwared mawr iddo oedd cael " huno yn yr Iesu-" Braidd na feddyliem fod Mr. Ezeciel Thomas yn ddyn anghyffredin ar lawer o ystyriaethau. Felly, yr oedd o ran gallu ac annibyniaeth meddwl, ac o ran nerth côf. Darlienodd ac as- tudiodd lawer ar wahanol fathau o lyfrau, ac yn eu plith lyfrau nad oeddynt yn dal unrhyw berthynas â'r efengyl ac â duwinyddiaeth. Ysgrifenodd lawer hefyd, a chy- hoeddodd rai llyfrau yn Gymraeg ac yn Saesoneg Mewn pethau crefyddol, tueddai i feddwl fod y gorphenol yn well na'r presenol; prin y cydnabyddid ganddo fod y meibion yn gystal ^a'r tadau, a bod