Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif ii. Tachwedd, 1891. Cyf. i. Y CYFARFOD EGLWYSIG. Gan y Parch. John Evans, Abermeurig. DYMA yr enw diweddar ar gyfarfod crefyddol yr ael- odau a'u plant. Gelwir ef wrth yr enw hwn, am mai yr aelodau eglwysig, a'u plant, a'r rhai sydd yn ymgeiswyr am aelodaeth yn unig sydd i fod ynddo. Gelwir ef gan rai cyfarfod yr eglwys, yr hyn sydd o'r un ystyr. Yr enw mwyaf cyíFredin, hen a diweddar, ar y cyfarfod hwn yw seiet; tal- fyriad Cymreigaidd o'r gair Society—Cymdeithas; ac y mae o'r un ystyr â'r Gyfeillach, fel y gelwir y cyfarfod gan yr Annibynwyr ac eraill. " Y Cymdeithasau Neillduol " y gelwir y cyfarfodydd hyn yn y Cyffes Ffydd, a hyny mewn cyferbyniad i'r " Cymdeithasau Misol " (y Cyfarfodydd Misol), a'r " Cymdeithasau Chwarterol" (y Cymdeithasfaoedd). Yr oedd yr hen Fethodistiaid yn fwy tebyg i Gorph na'r Method- istiaid diweddar, ac oblegid hyny yr oedd enwau eu cyfarfod- ydd yn fwy trefnyddol, yn ol ystyr y gair corph. Yr oedd y seiet, yr hon yw sylfaen yr holl gymdeithasau eraill, yn cael ei galw yn gymdeithas wythnosol, a'r llallyn gymdeithasfisol, a'r olaf yn gymdeithas chwarterol. Dichon y byddai hyny yn well eto na galw y ddau gyntaf yn Gyfarfod, sef cyfarfod eglwysig a Chyfarfod Misol, ond yr olaf yn Gymdeithasfa. Byddai yn fwy cyson â'r ddau gyntaf i alw yr olaf yn Gyfar- fod Chwarterol. Ond chware' teg i Fethodistiaid y blynydd- oedd diweddaf, nid ydym yn meddwl eu bod lawer yn waeth mewn rhoddi enwau ar eu cyfarfodydd na'r hen Fethodistiaid, gan nad ydym yn meddwl iddynt hwy alw y seiet yn Gym- deithas Neillduol am fawr o amser ar ol rhoddi yr enw yn y CyfFes Ffydd, dim ond rhoddi yr enw mewn cysylltiad â lle, megys Cymdeithas Twrgwyn, Cymdeithas Penlan, &c. Dyna, efallai y dywed llawer nad oes fawr o bwys mewn enw. Beth bynag am yr enw, mae bodolaeth y cyfarfod yn un â bodolaeth y Methodistiaid, ac yn un o'u neillduohon penat. Adnabyddid hwy yn mhlith eu gelynion fel rhaioeddyn cynal cymdeithasau preifat ar hyd a lled y wlad. Daeth yn " ar- wydd yrhwn y dywedid yn ei erbyn" gan y gelymon ; a daeth yn gymaint prawf ar y rhai a geisient fod ynddo, tely bu yn " gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, pan oedd yn cael ei gadw yn y drefn a"r ansawdd oreu. Mae barn yr hen bobl am y cyfarfod hwn yn cael ei dangos yn eglur yn y