Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif io. Hydref, 1891. Cyf. i. METHODISTIAETH A CHYFARFOD MISOL SIR GAERFYRDDIN. Gan y Parch. Thomas Job, Cynwil. ysgrif iii. YN ein hysgrif ddiweddaf, gadawsom hanes y Cyfarfod Misol gyda'r adroddiad am yr hen frawd maddeugar hwnw yn dadleu dros ei frodyr oeddyot wedi troseddu yn ei erbyn, am gael o honynt faddeuant gan y frawdjliaeth, yn wyneb eu bod wedi edifarhau a chyfaddef e.u camsyniad ; ac felly terfynwyd yr helynt mewn maddeugarwch, ac aeth y terfysg drosodd. Yn awr ni a ddeuwn at hanes y Cyfarfod Misol fel y cawsom ni olwg arno, er ys tua deg a dengain o flynyddoedd yn ol. Ni pherthynai i Gyfarfod Misol Sir Gaer- fyrddin y pryd hwnw ond un-ar-ddeg o weinidogion, deg-ar- hugain o bregethwyr, cant chwe' deg a saith o flaenoriaid, a rhyw ychydig dros bum' mil o aelodau ; ond oddiar hyny, y mae ein cynydd wedi bod yn fawr iawn, fel y gellir gweled oddiwrth yr Ystadegau a gyhoeddwyd yn Nghylchgrawn mis \wst. " O'r Arglwydd y daeth hyn, hyn sydd ryfedd yn ein golwg ni." A'r peth sydd yn hynod i feddwl am dano yw, nad oes cymaint ag un o'r brodyr yn y weinidogaeth oeddynt aelodau o'r Cyfarfod Misol â'u henwau yn y Dydd- iadur yn y flwyddyn i842,ar dir y byw yn y flwyddyn hon, 1891; felly yr wyf, er nad yn hen iawn, wedi cael byw i weled claddu yr oll. Nid-wyf yn gwybod 'chwaith am un blaenor yn y sir yn fyw ag oedd yn y swydd yn y flwyddyn a enwais. Cof cynes sydd genyf am amryw o hen flaenoriaid y dyddiau hyny, megys, Mri. Gnffith Harries a David Charles, Caer- tyr/din ; James Jones, Castellnewydd; Thos. Thoraas, Bryn- menda, Llanarthne; Richard îones, Lodge, Llandda.rog; David Thomas, Pantygwin, a John Lewis, NantgwjmejLlan- ddeusant; Rees Tones a David Lewis, Ldanymddyfri; David Morris, Hendre; John Francis, Llanedí; Jphn Thomas, Cwmsidan; John Havârd a Walter Lloyd, Mejdnm; David Richards, Llandyfaelog, yn nghydâfluawaeraill naa gallaf yn awr eu henwi. Yr oedd y brodyr hyn yn hyüod o fiyddlawn nid vn unie i'r achos yn eu cartref, ond hefyd ir achos yn gyä- redinol yn y sir. Yr oedd rhai o honynt bob amser yn y