Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYLCHGRAWN. Rhif 9. Medi, 1891. Cyf. 1. GWR DUW YN YR OGOF. " Ac yno yr aeth efe i fewn ogof, ac a letyodd yno. Ac wele air yr Arglwydd ato eí; ac efe a ddywedodd wrtho, " Bath a wnai di yma, Elias ? ' —I Bren. xix. 9. CYMAINT yw yr anrhydedd a osododd Duw ar Elías, yrí cau ac yn agoryd y nefoedd wrth ei air ef, fel yr ydym ni mewn profedigaeth i dybied am y proffwyd ei fod yn rhyw un mwy na dyn : neu os dyn ydoedd, ei fod yn ddyn tra gwa- hanol i ni. I ragfiaenu ein cwymp i'r cyfeiliornad hwn, gof- alodd Iago ddywedyd ychydig eiriau sydd yn penderfynu y pwngc : " Elias oedd ddyn yn rhaid iddo ddyoddef fel ninau." Ië, dyn oedd Elias, a dyn yn byw yn yr un amgylchiadau, a than yr un ddeddf, a ninau. Yn sefyllfa pethau yn y byd hwn, rhaid yw i ddyn ddy- oddef. Os bydd efe yn ffyddlawn i'w ddyledswydd ac i'r gwirionedd, bydd yn sicr o gael dyoddef oddiwrth ddynion ; neu os bydd efe yn anffyddlawn, bydd yn sicr o gael dyoddef oddiwrth Dduw. Cymered ef y llwybr a fyno, ni all osgoi dyoddef. Ni allai Elias osgoi dyoddef, ac nis gallwn ninau ei osgoi. Er holl hynodion Elias, y mae ei hanes yn brawf o"i ddyn- oliaeth, ac o gyffelybrwydd ei ddynoliaeth ef i'reiddom ni. Vr oedd efe yn ddyn duwiol a selog ; ond yn dra thebyg i lawer dyn duwiol a selog a adwaenom ni yn y dyddiau hyn. An- wastad oedd ei lwybr, ac ansefydlog oedd ei deimladau. Byddai weithiau yn uchel, a phryd arail yn isel; weithiau yn orchfygwr, a phryd aiall yn orchfygedig ; weithiau yn gadarn yn y ffydd, a phryd arall yn llwfr a digalon. Anfunasid ef gan Dduw i ddiwygio Israel, yn nyddiau Ahab a Jezebel, pan oedd addoliad y gwir Dduw ar fin bod wedi ei ymlid yn llwyr o'r wlad, ac eilunaddoliaeth yn gystal a bod yn grefydd sefydledig y llywodraeth. A phan oedd y newyn yn dost yn Samaria, o herwydd na ddisgynasai na gwlith na gwlaw am dair blynedd a haner, cynygiodd y profl- wyd i'r brenin alw cyfarfod ar fynydd Carmel, i gael pender- fyniad ar y cwestiwn pa un ai yr Arglwydd ai Baai oedd Dduw. Yr oedd aberth i gael ei osod ar yr allor i bob uno'r ddau ; a'r duw a atebai trwy dân oedd i gael ei gydnabod o hyny allan. Ar hyn y cytunwyd. Cafodd Baal y cynyg cyntaf. Rhoddwyd bustach ar eí allor ef yn foreu ; a bu