Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif 8. Awst, 1891. Cyf. 1. LLYFR TONAU CYFUNDEBOL. MAE rhyw sibrwd yn y gwynt er ys rhai blynyddoedd am gael Llyfr Tonau Cynulleidfaol newydd, yn feddiant i'r Cyfundeb, megys ag y mae y Llyfr Hymnau yn feddiant iddo. Y Llyfr Tonau a gyhoeddwyd gan y diweddar Ieuan Gwyllt, ac sydd wedi bod mewn arferiad cyffredinol yn ein cynulleidfaoedd o'i ymddangosiad cyntaf hyd yn awr, nid yw yn feddiant i'r Cyfundeb, eithr meddiant i weddw y Casglydd, neu ynte i ryw rai eraill. Llyfrau Tonau newydd- ion a geir lle y mynir, ond ni all un o honynt ateb y dyben mewn golwg, heb iddo fod yn feddiant Cyfundebol. O ba le y tarddodd y dymuniad am y Llyfr Tonau Cyfundebol ar y cyntaf, nid yw yn hawdd deall a phenderfynu ; ac nid yw ffynonell y tarddiad o nemawr bwys erbyn hyn, gan fod y teimlad yn awr yn cael ei olygu yn un cyffredinol. Mae y Gymdeithasfa yn nau pen y Dywysogaeth wedi datgan o blaid cael y Llyfr; a Phwyllgor wedi ei benodi, yn cynwys gwýr deallus o Dde a Gogledd, i ystyried y mater ; a'r Pwyllgcr hwnw, ar ol ei ystyried, wedi cyflwyno adroddiad ar y mater yn y Gymanfa Gyffredinol ddiweddaf, yr hon a gynal- iwyd yn Nhreforris. Aelodau y Pwyllgor ydynt y Parchn. T. J. Wheldon, B.A., Ffestiniog; Owen Jones, B.A., Liver- pool; Ellis Edwards, M.A., Bala; Thomas Levi, Aberys- twyth; David Saunders, D.D., Abertawe; Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn ; yn nghyd â William James, Aberdâr, yn gynullydd. A ganlyn oedd cynygion y Pwyilgor yn y Gymanfa Gyffredinol:— " 1. Gan fod mwyafrif y Cyfarfodydd Misol yn y ddwy Dalaeth yn cyd-olygu mai dymunol fyddai cael Llyfr Tonau yn feddiant i'r Cyfundeb, a bod hyny wedi derbyn cymer- adwyaeth y ddwy Gymdeithasfa—Ein bod yn barnu mai doeth i'r Gymanfa Gyffredinol ydyw ymgymeryd â darparu a chyhoeddi y cyfryw Lyfr. " 2. Mai dymuncl fyddai i'r Gymanfa Gyffredinol benodi pwyllgor i gario yr amcan allan, ac i fod yn gyfrifol i'r Gymanfa yn y mater ; ond gydag awdnrdod i ychwanegu at eu rhif, ac i alw am bob cynorthwy oddiwrth unrhyw gerdd- orion a farnont hwy yn angenrheidiol i gwbìhau y gwaith." Mabwysiadwyd dau gynyg y Pwyllgor gan y Gymanfa, ac mewn canlyniad mae y pwngc o gael Liyfr Tonau Cyfun-