Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. RHIF 7. GORPHENAF, l8gi. CyF. I. TREFN Y WEINIDOGAETH. AR hyn o amser y mae llawer o athronyddu yn bod i'r amcan o geisio dangos i bobl nad ydynt yn rhy ewyllysgar i weled anfuddioldeb y drefn deithiol o weinidog- aethu yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd. Myn rhai i'r Gymdeithasfa gyhoeddi dedfryd marwolaeth ar y pregethu teithiol, ansefydlog, yn unig ar dystiolaeth y cyhuddwyr yn ei erbyn, heb roi cyneusdra i neb ddwyn un- rhyw dystiolaeth o'i blaid, ac heb gymaint a chaniatau fod tystiolaethu o'i blaid yn beth posibl o dan yr amgylchiadau presenol. Cydnabyddir ddarfod i bregethu teithiol wneyd lles mawr yn yr amser a fu, ond y mae erbyn hyn, meddífj wedi colli ei holl ddylanwad er daioni, ac yn waeth na bcd yn ddiles, am ei fod yn magu rbyw ysfa afiach yn y gwran- dawyr am y newydd a'r dyeithr, ac yn lladd archwaeth y pregethwyr i astudio, ac yn eu gwneyd yn ddilafur. Y mae y rhai hyn yn gyhuddiadau pwysig, os gellir eu profi, ac eto nid ydynt ond ychydig o lawer o rai cyffelyb iddynt a ddygir yn erbyn y weinidogaeth ansefydlog. Ac i wneyd y drwg yn waeth, cwynir fod y drefn deithiol yn un gywilyddus o dreul- fawr, am fod y teithio ynddo ei hun yn costio wyth mil o bunau (£8,000) y fiwyddyn. . Amcan-gyfrif yw hwn, ac y mae yu ddiau fcd y cyfrifydd wedi gofalu amcanu yn ddigon uchel, canys y mae y swm hwn yn tybied un rhan c ddeg o gyfan- swm holl draul y weinidogaeth. Nid ydym yn barod i dderbyn yr haeriad heb brofion digonol o'i gywirdeb. Nid ydym 'chwaith yn dadleu yn benderfynol nad yw y pregethu teithiol yn haeddu marw ; oblegid os ydyw yn mhob peth mor ddrwg ag y myn ei wrthwynebwyr roddi ar ddeall ei fod, y mae yn anhawdd dyfalu pa amddiffyniad i'w gynyg, ond yr ydym yn dadleu dros gael prawf teg ar yr achos cyn dedfrydu y cyhuddedig. Y mae dwy ochr i bob achos, a chyn ei ddeall yn iawn, y mae yn ofynol cael golwg ar y naill ochr a'r lla.ll. Gan yr addefir i'r pregethu teithiol yn mhlith y Methodistiaid fod yn wasanaethgar a llwyddianus rhyfeddol yn y dyddiau gynt, mae yn naturiol gofyn, Beth sydd yn gwneyd yr hyn oedd gynt yn dda yn ddrwg yn ein dyddiau ni ? Mae cyfleusderau teithio lawer yn hwylusach a rnatach nag oeddynt yn amser ein tadau, ac y mae y coll amser yn