Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif 6. Mehefin, 1891. Cyf. i. METHODISTIAETH A CHYFARFOD MISOL SIR GAERFYRDDIN. Gan y Parch. Thomas Job, Cynwil. YsGRIF II. YN rhifyn mis Ebrill, fe ddaríu i ni roddi hanes un o Gyfarfodydd Misol y dyddiau gynt ; yn y rhifyn wn cto, rhoddwn ychydig hanes y cyfarfodydd hyny yn mhellachr el y clywsom yr hen frodyr yn adrodd, cyn myned yn mlaen at hanes y Cyfarfodydd Misol yn y sir hon fel y gwelsoro bethau yn ein dyddiau ni. Un peth hynod yn yr hen dadau oedd, y meddwl uchel a pharchus oedd ganddynt am y Gymanfa a'r Cyfarfod Misol ; yr oeddynt yn hynod loyal a. pharod i gwympo i fewn â'r hyn benderfynid yn y cyfarfod- ydd hyn. Wrth eu clywed yn siarad yn y teulu ac yn yr eglwys mor barchus a theyrngarol am benderfyniadau y Cyf- arfod Misol a'r Gymanfa, yr oedd yn ddigon i beri i ni y plant a'r bobl ieuainc, gredu ei fod braidd yn anmhosibl i'r dynion sanctaidd hyny gatnsynied wrth ymdrin mewn Cynadledd ar unrhyw tater; yr oedd hyn yn cario dylanwad da ar ein meddwl, ac yn cynyrchu ynom barch mawr i ddynion Duw, a Chymanfaoedd Sîon. Yr oedd yn yr amser hwnw fwy o ymdrin â chrefydd yn ei phethau ysbrydol nag sydd yn ein dyddiau ni, yn nghynull- iadau y Gymanfa a'r Cyfarfodydd Misol; ac fe ddysgwylid i r brodyr fyddai yn myned o'r eglwysi i'r cyfarfodydd hyn, ddwyn yr hanes yn ol gyda hwynt yn lled gryno, er mwyn gwledda yn yr eglwysi gartref ar y gwirioneddau fuasent dan sylw yn y Cyfarfod Misol, neu y Gymanfa. Yr oedd y Parch. David Bowen, Llansaint, yn hen weinidog parchus a chy- meradwy gan bawb oedd yn ei adwaen, yn fawr ei ofal am yr achos gartref ac yn y Dosbarth, ac yn un o ffyddloniaid y Cyfarfod Misol; yr oedd braidd bob amser yn bresenol, gan gymeryd dyddordeb dwfn yn yr achos yn y sir yn ei holl ranau ; byddai yn dyfod yn aml i Cydweli i gynal cyfarfod- ydd eglwysig, ac, fel rheol, byddai yn dra thebyg o fod yno yr wythnos ar ol y Cyfarfod Misol. Yr oedd yn y lle hen bregethwr parchus o'r enw Samuel Anthony, yr hwn oedd mewn gwirionedd yn ddyn mawr, o feddwl galluog, ac wedi darllen llawer ar weithiau y Puritaniaid; yr oedd hefyd yn