Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif 5. Mai, 1891. Cyf. 1. Y CYFARFOD GWEDDI WYTHNOSOL. Gan y Parch. John Evans, Abermeurig. CLYWSOM yr hên bobl yn dyweyd mai Mr. Charles o'r Bala fu yr offeryn i sefydlu y cyfarfod hwn yn mhlith y Methodistiaid. Nis gwyddom hanes yr ymdrafodaeth }m nghylch ei sefydliad, a fu yn fater Cymdeithasfa De a Gogledd fel y bu wrth sefydlu yr Ysgoi Sabbothol. Nis gwyddom 'chwaith a oedd yn mysg enwadau ereill yn y wlad cyn ei sefydlu gyda ni. Mae un peth yn sicr, sef fod cych- wyniad y fath gyfarfod, sydd wedi dyfod yn rhan o addoliad cyhoeddus bron pob enwad, yn beth pur gyffredinol, amlwg, a dylanwadol iawn, neu ni fyddai wedi cael y fath dderbyn- iad gan bawb. Nid ydym i feddwl nad oedd cyfarfodydd gweddiau o'r un natur a hwn yn càeleu cynal o'r blaen mewn addoldai, ac yn enwedig mewn tai anedd, ar hyd y wlad ; ond Mr. Charles a fu yn foddion i'w wneyd yn gyfarfod sefydlog a rheolaidd, ac at amcan neillduol, sef i ofyn am lwyddiant achos y Brenin mawr yn mhob cynulleidfa av ei phcii ei hun. " Mae y cyfarfod hwn," meddai yr hên bobl, " wedi cael ei neillduo i ofyn am lwyddiant yr achos gartref." Ie, ddar- llenydd, mae gan bob cynulleidfa ei chartref neillduol ei hun. Mae gan bob teulu ei gartref, ac y mae yr addoliad teuluaidd wedi cael ei fwriadu dros bob teulu ar ei ben ei hun. Felly am y cyfarfod gweddi wythnosol, mae i fod yn mhob cy- nulleidfa, a thros bob cynulleidfa lle ei cynelir. Golygir pawb gan y cyfarfod hwn yn addoli dan eu gwinwydden a'u ífigys- bren eu hunain. Nid dan ddylanwad y syniad oedd yn llyw- odraethu y Samariaid a'r luddewon, a pheri i un daeru mai yn Gerizim, a'r llall i daeru mai yn Jerusalem, yr oedd y fan lle yr oedd yn rhaid addoli. Nid yw y " gwir addolwyr" yn g-wneyd fawr o'r lle, fel ag i fod yn rhagfarnllyd at bob Ue arall; ond gydag ewyllys dda i bawb, teimlant ddyledswydd neillduol i weddio dros eu cynulleidfa eu hunain. Mae yr addoldy yn ganolfan cynulliad i addolwyr sydd wedi gwneyd y lle hwn yn gartref at addoli, a dylent deimlo drosto yr un fath ag y teimlant dros eu teulu eu hunain, gan ewyllysio yn dda i bawb ereill, a chydymdeimlo â hwy, fel rhai sydd dan yr un rhwymedigaethau. Meddylier am bwysigrwydd y mater. Er mwyn i ni ei ddeall