Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif 4. Ebrill, 1891. Cyf. 1. METHODISTIAETH A CHYFARFOD MISOL SIR GAERFYRDDIN YN Y DYDDIAU GYNT. Gan y Parch. Thomas Job, Cynwil. "Duw, clywsom â'n clustiau, ein tadau a fynegasant i ni, y weithred a wnaethost yn eu hamser hwynt, yn y dyddiau gynt."—Dafydd. PAN yn ddiweddar yn sefyll uwchben yr adnod hon, tar- awodd i'm meddwl fod yn iawn i ni yn y dyddiau hyn roddi rhyw gymaint o hanes y dyddiau gynt i'r ieuenctyd sydd yn codi yn yr oes hon ; ac felly ni wnawn ein goreu yn y cyfeiriad hwn, trwy roddi ychydig hanes " yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â'n llygaid, a'r hyn a edrychasom arno." Yn gymaint a bod fy rhieni yn dygwydd bod yn aelodau gyda y Methodistiaid Calfinaidd, a'm tad yn canlyn Cyfarfodydd Misol y Sir gyda mes'ur o ftyddlondeb, a'r tý yn llety fforddolion, cefais y rhagorfraint fawr o ffurfio adna- byddiaeth âgamryw o hen gawri y Methodistiaid, y rhai oedd y dyddiau hyny yn cyniwair trwy y gwledydd i bregethu Crist a'i groes i'r werin; canys yr oedd y weinidogaeth deithiol yn ei llawn nerth a'i gogoniant y dyddiau hyny, a phregethu ar ganol dydd gwaith, fel ar y Sabboth—oedfa am ddeg, neu ddau, neu am haner dydd, a chyfarfod eglwysig ar ol yr oedfa ; ac, O ! rhyfedd y nerthoedd a deimlwyd lawer gwaith yn y cyfarfodydd hyny ! Yr oedd y lluaws yn ym- dyru yn nghyd ar ganol dydd gwaith, fel yn yr hwyr, ac ar y Sabboth, i wrando ar hen udgyrn arian Cymru yn bloeddio heddwch uwchben yr Aberth; gweinidogaeth y dynion hyn, a'r hen enwogion fu ar y maes yn flaenorol iddynt, fu yn foddion yn llaw yr Arglwydd i ddeffro Cymru o'i chwsg. Cofus genyf am y Parchn. Thomas Richards, a William Morris, Sir Benfro; Morgan Howells, John Jones, Talsarn ; Cadwaladr Owen, Henry Rees, Evan Williams, Pentre- uchaf; John Jones, Blaenanerch, yn wr ieuanc, ac amryw ereill ; megys David Morris, Hendre; John WÜliams, Llechidor; Enoch Lewis, Abergwaen—y rhai oeddynt fel llwynogod Samson yn rhoddi ýd y Philistiaid ar dûn—O ! îe, yr anfarwol John Evans, Llwynffortun, fel y gelwid ef y pryd hwnw—yr oedd yr enw Llwynffortun yn anwyl gan fy nghalon, ac yn gysegredig yn fy meddwl er yn blentyn, wrth glywed fy rhieni yn son cymaint am dano—a Charles,