Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif 3. Mawrth, 1891. Cyf. 1. CYFAEFOD MISOL MORGANWG 50 MLYNEDD YN OL. Gan y Parch. David Phillips, Abertawe. "Y"YTRTH sefyll am ychydig yn y fan lle yr ydym yn awr W ar yrfa bywyd, a chymeryd hamdden i edrych yn ol am 50 neu 60 mlynedd, yr ydym yn gweledfod cyfnewidiadau mawrion, lawer, wedi cymeryd lle yn y rhan hyuy o'r byd yma yr ydym ni yn fwyaf cyfarwydd ynddo. Mewn llawer ystyr, os nad yn gwbl, y mae y cyfnewidiadau hyny yn well- iantau hefyd. Myned y mae y byd, gan ymgodi wrth fyned yn mlaen. Y mae y naill oes fel yn sefyll ar ysgwyddau yr oes a'i blaenorai, ac, felly, yn gweled yn mhellach ac yn glirach, ac ar yr un pryd yn ymroddi i fyned ihagddi. Nid ychydig na dibwys y gwelliantau sydd wedi cymeryd lle yn Morganwg ar hyd yr haner canrif diweddaf, yr hyn welir yn eglur gan y neb a ymgymero â chyferbynu hyny â'r haner canrif blaenorol. Ond ein hamcan yn awr yw taflu ein golwg yn frysiog ac yn frâs ar achos crefydd Efengylaidd yn Morganwg, a hyny yn benaf, os nad yn hollol, ar y llinell Fethodistaidd ; gan gydmaru yr agweddion presenol, yn ol y cof sydd genym, â'r hyn ydoedd haner can' mlynedd yn ol. Dichon mai mantais i ni, i'r perwyl hwnw, fyddai cyfyngu ein golwg a chadw ein llygaid ar Gyfarfod Misol y Cyfundeb am hýd y cyfnod yn Morganwg. Dorus ìawn i ni yw yr adgof'sydd genym am Gyfarfod Misol Morganwg yn yr adeg yradwaenem ef gyntaf, J dichon mai buddiol i ddarllenwyr y Cylchgrawn presenol fyddai edrych yn ol gyda ni—os gallwn fod yn rhyw gymaint o help ìddynt—i gael trem ar ein Cyfundeb yn yr adeg hono. Mae agos yr oll o'r brodyr a'r tadau a gyfansoddent y Cyfar- fod Misol y pryd hwnw, erbyn hyn wedi diosg eu harfau gweithio, a gadael maes eu llafur, ac wedi myned i mewn i'r " orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw," ac yno yn dysgwyl am y gweddill,—" Canys ni pherffeithir hwy hebom ninau ;" " Os ydym yn ìawn droedio at wirionedd yr Efengyl." Nis gallwn, o ddiffyg gofod, wneyd nemawr ddim ond crybwyll eu henwau, canys cyfyngir ni gan Mr. Gol. o ran " hỳd," sut bynag am " ddyfnder a lled " (chwedl yntau). Nis gallwn ymatal rhag enwi, yn mhlith y gweinidogion, yr hybarch Richard Thomas, Llysyfronydd ; William Griffiths, Browyr