Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CYLCHGRAWN. Rhif 2. Chwefror, 1891. Cyf. CIPDREM AR ACHOS Y METHODISTIAID YN NGOGLEDD CEREDIGION. Gan y Parch. T. J. Morgan, Garn. GALLESID ysgrifenu hanes pur fanwl am y symudiadau mawrion a roddasant ffurf arosol i hanesiaeth Cymru heb gymaint ag enwi rhai siroedd ynddi. Ond nid felly am Geredigion. Buasai agos mor hawdd ysgrifenu am y cyfan- soddiad dynol a'i weithrediadau heb enwi y galon ag a fuasai ysgrifenu hanes Cymru heb son am Geredigion. Mewn cys- ylltiad â gwleidyddiaeth, cerddoriaeth, llenyddiaeth, ac addysg, meddiana safie uchel a phwysig. Yma y cyflawnwyd rhai o'r gorchestion hynotaf yn nglyn â gwleidyddiaeth yn Nghymru yn yr oes hon. Oddiyma yr aeth Dr. Edwards a Ieuan Gwyllt allan i greu cyfnodau newyddion yn hanes llenyddiaeth a cherddoriaeth ein gwlad. Ac yma hefyd y sefydiwyd y coleg cenedlaethol yn ein plith. Tybiwn y cydnabyddir i Geredigion gael ei breintio uwchlaw holl siroedd Cymru âg arweinwyr crefyddol o'r dos- barth blaenaf, dros ystod yr holl adeg o'r diwygiad mawr cyn- taf hyd y diwygiad mawr diweddaf, o Daniel Rowland i lawr hyd David Morgan. Yr oeddent yn amrywio o ran maint a ffurf eu galluoedd, ond yn cael eu hysgogi gan yr un ysbryd, eu tanio gan yr un sel, ac a fuont yn llwyddianus, mae'n debyg, i feddianu y sir hon í Grist ac i Fethodistiaeth yn fwy llwyr na'r un o'r siroedd ereill. Yn rhai o honynt cafwyd y preg- ethwyr mwyaf nerthol ac arddunol, yn ereill y trefnwyr mwyaf doeth a deheuig. Yn canlyn dylanwad gorchfygol gweinidog- aeth Rowlands ac ereill i lawr hyd Ebenezer Morris, daeth Ebenezer Richard i enwogrwydd arbenig fel trefnydd a symbyl- ydd gyda'r Ysgol Sabbothol. O dan arweiniad ac ysbrydiaeth Mr. Richard, codwyd yr Ysgol Sabbothol yn ddiau i ystâd uwch o effeithiolrwydd yma nag yn un parth arall o'r wlad. Ac yr oedd dylanwad yr effeithiolrwydd uchel yma yn cyr- haedd dros yr oli o Gymru. Ffaith ag sydd wedi bod dipyn yn hynod ac anesboniadwy i lawer ydyw fod cynifer o wyr Ceredigion yn llenwi bywiolaethau Eglwysig dros yr holl wlad, a chyfartaledd mor uchel o'r rhai hyny wedi eu magu ar aelwydydd ac mewn eglwysi Methodistaidd. Y mae yr eglurhad yn bur syml. Y mae i'w briodoli, i ddechreu, i'r ystâd uchel yr oedd yr Ysgol Sabbothol ynddi, fel ag i greu meddylgarwch ac awydd am ddysg a dyrchafiad yn ein pobl ieuainc ; ac yna, i'r ffaith mai cyfryngau eglwysig yn unig oedd