Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

4 yV*-tV' Y CYLCHGRAWN. RHIF I. IONAWR, l8gi. CYF. I. SÍR BENFRO: JOHN RHYDDERCH. Gan y Parch. George Williams, Llys Bran. IGYFARFOD â'r cais am " Rywbeth o Sir Benfro," nis gelHr gwneyd dim yn well na rhoddi ych}'dig o gofnodion am rai o'r Methodistiaid oeddynt yn byw. ac yn llafurio yma, ddeugain a haner-can' mlynedd ytl ol. Byddai rhoddi adolygiad o'r Sir yn gyfan, am ystod hyny o amser, yn waith na allesid ei wneyd mewn brys— yn llenwi mwy nag un ysgrif—ac yn waith o gyfrifoldeb pwysig, am y byddai mor hawdd syrthio i gams^miadau. Ond wrth roddi cofnodion personol, y mae y gwaith yn fwy dyogel, yn fwy hawdd, ac yn gyfryw ag y gellir 'chwanegu ato o bryd i bryd, os bydd galw; a phan mewn hwyl. Yr oedd yma rai goleuadau mawrion—-ser dysglaer—ond yr oedd yma hefyd oleuadau llai, am y rhai nad oes ond ychydig neu ddim wedi ei ysgrifenu. Soniwyd lawer gwaith am wneyd rhywbeth i gyflenwi y diffyg, ond aros y mae o hyd ; ac yn mhen ychydig eto bydd wedi myned yn ioo late. Bwriedir y sylwadau hyn i fod yn ddechreuad yr hanes am y " goleuadau llai " a lleiaf. Wrth son am danynt hwy daw enwau y "goleuadau mwy " gerbron weithiau, am y rhai y mae y wlad eisoes yn hysbys, fel nad oes eisieu yma fyned yn fanol i'w hanes. Un o rai hynod yr amser hwnw ydoedd John Rhydderch, yr Hall. Dywedir fod yr " Hen Garitors " yn darfod o'r byd. Gwell hyny nag i neb geisio ffugio y cyfryw gymeriad — ceisio büd yn hynod pan nad oes dim hynod ynddynt. Anffawd enbyd ! Nid digrifwch ac ysmaldod ydynt yr unig elfenau, na'r elfenau goreu 'chwaith, i enill hynodrwydd cymeriad. Sicr iawn nad yn y pethau hyn yr oedd John Rhydderch yn hynod, ond yn hytrach yr yr absenoldeb o honynt. Eto, un hynod, ac mewn rhai pethau, an hynod iawn ydoedd. Ie, " Hen Garitor" anwyl ydoedd. Saif yr Hall—lle y preswyliai—yn agos i ganol y Sir, ac heb fod yn mhell o'r terfynau Seisnig. Hyu sydd yn rhoddi cyfrif am yr enw. Y mae dau à\, lled gyfrifol, yn agos i'w gilydd—