Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

414 y CYLCHGliAWN. TIIOMAS EVANS, PEN-Y-FEIDR, A'I DEULU. WILLIAM EVANS. >EDWERYDD mab i T. ae S. Evaas ydoedd William. Gan- wyd ef yn Mhen y-feidr Hydref laf, 1800. Pan ya ieuanc yr oedd yn teimlo lly wodraeth ei rieni, a'u gofal am ei gadw rhag cwmpeini drwg, a dilyn moddion gras, yn galed iawn, ac yr oedd ya edrych ar ddiwrnod y society y diwrnod duaf o'r wythnos, ond dy- wedai ei fod yn aml yn newid ei feddwl cyn myned gartref oddiyno. Yr oedd yn teimlo syched mawr am wybodaeth er yn blentyn, ond ni chaíodd ood tua thair wythnos o ysgol ddyddiol o gwbl. Ond bu yn ym- drechgar iawn i ddysgu yn yr auiser a gafodd, ac yn yr Ysgol Sul, a thrwy gymhorth ei rieni a'i frodyr gartref daeth yn ysgolhaig da iawn. Teimlodd argralíiadau crefyddol yn bur foreu, ac yr oedd yn cael blas ar fyn'd i ryw le dirgel i weddio. Pan oedd tua 15 oed bu farw ei chwaer Mary, ac effeithiodd hyny yn ddwys ar ei feddwl am dro. Pan yn ieuanc hefyd, cafodd rai gwaredigaethau hynod rhag colli ei fywyd. Megys un tro pan yn ceisio dringo at nith dullhuan yn nghraig Trefgarnfawr, cael gafael niewn grugen a'i hataliodd rhag syrthio o uehder mawr; a thro arall, pan yn ceisio dringo at nith barcud, bu yn agos iawn a syrthio ; a gwnaeth y pethau hyn argraff ddwys arno, a bu yn ceisio rhoddi ei hun i'r Arglwydd. Ond mewn amser gwisgodd yr argraff- iadauhynymaith. Ond drwy drugaredd cadwyd ef rhag pechodau cyhoeddus. Pan oedd o 18 i 20 oed, bu yn myned yn aml i wrando y Bedyddwyr, o gywreinrwydd ar y cyntaf, er mwyn eu gweled yn trochi; ond wrth eu clywed inor eofn yn cyhoeddi mai dyna yr uuig ffordd i fyned i ddedwyddwch, bu yn agos a chael ei enill atynt, er nad oedd yn gwybod dim hyd yma atn dro ar ei gyfiwr. Pan yn y teimlad hwn un dydd, tra yr oedd yn gweithio rhywbeth yn yr ardd, daeth y gair hwnw yn Ioan xiii. 10, i'w feddwl yn sydyn, a chyda nerth mawr, " Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lan oll." Daeth yn gryf ar ei feddwl mai cenadwri ato ef oedd hyny; ac nad oedd trochiad yn anhebgorcl er iachawdwriaeth. 4c o hyny hyd ei fedd yr oedd yn edrych ar yr athrawiaeth hono fel dyfais ddynol at dwyllo yr anwybodus. Y tro cyntaf y cafodd olwg ar ei gyf- lwr fel pechadwr colledig, oedd drwy wrando pregeth gan y Parch. Ẃ. Morris, oddiar Luc vii. 41, 42, " Dau ddyledwr oedd i'r un echwynwr," &c. O dan y bregeth hono cafodd olwg arno ei hun yn bechadur euog, ac heh ddim i dalu; a chafodd olwg ar y Gwaredwr fel Meichniydd yn talu drosto, ac yn marw yn ei le. Yr oedd cyn hyny yn ystyried ei hun yn well na y rhan f wyaf. Pan oedd o 20 i 21 oed, anfonodd gais at eglwys yr Hall, am gael ei dderbyn yn gyflawn aelod yn eu plith; a chafodd dderbyniad cynes ganddynt. Meddyliodd ond iddo gael cyfranogi o Swper yr Arglwydd, y cawsai waredigaeth o'i ofnau a'i amheu- on; ond er ei ddirfawr ofid cafodd ei siomi, agweloddmai "Da oedd gobeithio a yr Arglwydd." Cafodd olwg fwy clir lawer gwaith ar ol hyn ar gariad Orist tuag ato, a'i hawl ynddo, fel nad oedd siglo ar ei hyder ynddo drwy ei holl fywyd. Ebrill lleg, 1826, priododd a Mar- garet, unig ferch i William Meyler o'r Ford, ac aeth yno i fyw atynt, bu iddyut naw o blant—dau fab, a saith merch, pedair o ba rai sydd yn fyw yn bresenol. -Yr ocdd ef yn dilyn yr un alwedig- aeth a'i dad, ac Isaac ei frawd, sef cigydd, a dyn hynod iawn oedd ef fel ei frawd mewn masnach. Llawer gwaith y bu yn dywedyd yn y ffeiriau ae ar hyd y wlad, pan yn gofyn pris aniteiliaid, " Nid ydvch yn gwybod eu gwerth, rhoddaf fwy am danynt nag ydych yn geisio." Ac os byddai rhai yn troi maes yn well na'i ddysgwyliad, yr oedd yn wastad yn anfon rhagor o arian am danynt. Ac yr oedd gan bawb y fath ymddiried ynddo, fel mai anaml y byddent yn methu cytunoi bryuu. Yr oedd yn hynod am ei onestrwyda a'i eirwiredd. Ac yr oedd hyny yn ei wneyd yn debyg iawn i'r Psalmydd pan oedd yu dweyd, " Ni thrig yn ty nhy yr un a wnelo dwyll, ni thrig yn