Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gylchgrawn. CíFREH XXI.] EHAGFYR, 1882. [Riiif. 244. OYHUDDIAD CRIST YN ERBYN YR IUDDEWON. O^ Gan y Parch. T. Rees, Mertiiyr. 1 Ond ni fynwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd."—Ioan v. 40. EAE y geiriau difrif-ddwys hyn yn rhan o bregeth neu anerch- iad cyhoeddus draddodwyd gan yr Arglwydd Iesu Grist yn nyddiau ei gnawd i dyrfa o Iuddewon, yn, neu gerllaw i Jerusalem, ar achlysur lled nodedig, pan gynelid un o'u gwyliau blynyddol mwyaf arbenig, sef y Pasc, mae'n debygol. Mae pob un ddarlleno yr efengylau, gyda rhyw radd o sylw, yn cael ei daro gan eu gwahanol nodweddau, yr hyn sydd yn gwahaniaethu ac yn hynodi pob un o honynt, oblegid y maent yn amrywio cryn dipyn yn eu cynwysiad. Nid yr un deall na'r un defnyddiau yn hollol gymer pob un o'r ysgrifenwyr santaidd wrth roddi hanes y Gwaredwr. Ac y mae yn amlwg nad damwain oedd hyn, eithr fod dyben penodol, uchel, mewn golwg ynddo. Mae'n wir fod y tair efengyl flaenaf yn dwyn mwy o debygolrwydd i'w gifydd nag y mae yr un o honynt yn wneyd i'r olaf; o ba herwydd dynodir hwy " yr efengylau cydolygol," i'w gwahaniaethu. Y maent hwy yn adrodd mwy o hanes gwyrthiau lluosog, rhyfeddol a bendig- edig; damegion tarawiadol, pwrpasol, dwfn; ac ymlwybriad allanol pur a chymwynasgar Iesu o Nazareth yn y byd. Y maent wedi eu dodi ar lawr yn syml, gyfres o'r naill a'r llall o'r pethau hynod hyn yn nglyn ag ef, wedi eu cydwau a'u cydblethu yn nghyd, ac yn cyflwyno golygfa amrywiaethog, gogoneddus odiaeth, a llawn dyddordeb diail yn ei fy wyd daearol. Ond mae y llwybr gymerodd Ioan yn dra gwahanol. Arweiniwyd ef i gofnodi brasluniau neu grynodeb o'i ymddyddanion a'i gyfarchiadau mwyaf ysbrydol, heb fod me wn gwisg ddamegol. Oeir yma fwy o'r Duw-ddyn ei hunan— ei fywyd cyfriuachol, mewnol, ysbrydol, yn dyfod allan yn ei eiriau a'i gyfarch- iadau. Fe allai y gellid rhoddi cyfrif am hyn mewn rhan oddiwrth dymher, cyfansoddiad meddwl neillduol, a chymeriad yr Apostol. Heblaw hyn, nid yw mewn un modd yn annhebyg nad dyma yr efengyl ysgrifenwyd olaf, os nad hefyd y llyfr olaf o'r Testament Newydd ysgrifenwyd. Pa un bynag a wyddai ef ai peidio amy tair efengyl arall, neu y naill neu y llall o honynt, a'i fod yn ei olwg i gyfíenwi rhyw bethau a adawsid allan ganddynt hwy, ac arddangos yr Iesu mewn gwedd arall i gyd, ag oedd mor angenrheidiol; darfu i'r ysbrydoliaeth ddwyfol a'i cynhyrfodd i gymeryd y gorchwyl hwn mewn llaw, ac a'i hyfforddodd pa fodd i'w gyflawnu, ei ddodi ar waith i gof- nodi pethau penodol am ei wrthddrych, gwahanol iawn, ond dim yn wrth- wyneb i'r lleill, gyda'r amcan i wrth- sefyll cyfeiliornwyr a chyfeiliornadau yn effeithiol, ag oeddynt eisoes wedi cyfodi ac yn ymledaenu yn ei ddyddiau ef, yn gystal ag i gadarnhau ffydd Cristionogion yn mhob oes a gwlad yn ngwirionedd sylfaenol ein crefydd santaidd o berthynas i berson Orist. Lled debyg nad yw yr hyn gynwys y benod hon ond crynodeb byr o bregeth yr Athraw Mawr. Ni cheir yma namyn ei phrif osodiadau, ei syl- wedd, mewn mor lleied o le ag a elMd. Buasai yn beth eithaf dymunol genym ni i gael y bregeth hon mewn ffurf gyf- lawpach, gan ei bod yn un motr anghyffredin; ond dylem, gan y rhaid i ni, ymfoddloni ar yr hyn welodd Doethineb Ddwyfol yn dda ei roddi i ni. Mae y datganiadau a'r datgudd- 13