Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gylchgrawn. Cyfhes XXI.] TACHWEDD, 1882. [Riiif. 243. Y PETHAU SYDD UCHOD. Gan y Parch. B. D. Thomas, Woodstocr. " Am hyny, os cyd-gyfodasoeh gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uohod, Ue mae Crist yo eistedd ar ddeheulaw Duw."—Col. iii. 1. §AN y mae yr apostol yn ysgrifenu at y Colosiaid, i'w cymhell i geisio y pethau sydd uchod, y raae yn cymeryd yn ganiataol eu bod wedi meirw i'r pethau sydd isod. Yr ydych wedi condemnio y meddwl cnawdol, y chwant llygredig, yr awydd am fwyniant pechadurus; os ydych wedi gwneyd felly, yr ydych wedi meirw gyda Christ—yr ydych wedi meirw i'r hyn y bu Crist, ar eich rhan chwi, farw o'i blegid. Ond y mae Crist wedi adgyfodi, ac, os ydych wedi marw gydag ef, yr ydych wedi adgyfodi gydag ef. Y mae undeb âg ef yn ihyddhau y credadynoddiwrthbechod, ac yn ei gyfodi i fywyd. " Am hyny, os cyd-gyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod." Os ydych mewn undeb âg ef—yn credu yn ei í'arwolaeth a'i adgyfodiad—y mae ei udgyfodiad ef yn adgyfodiad i chwi, fel í-elodau ynddo ef. Y mae yn naturiol i chwi, bellach, geisio y pethau sydd 'ichod, lle mae Crist. Nid oes dim yn awr yn gymhwys i chwi i'w ceisio, ond >' pethau sydd uchod. Y mae yn rhaid i chwi eu cael yn eich sefyllfabresenol, 1 ch cymhwyso erbyn eich sefyîlfa •Idyíbdol; ac yn eich sefyllfa ddyfodol, hwy a'ch cyflenwant â dedwyddwch diddarfod. Y mae gras a gogoniant yn gynwysedig ac yn cydgyfarfod yn- 'ldynt. Pethau sydd uchod ydynt o ran eu^arddiad ; y mae gras ynddynt 1 ddynion ar y ddaear i'w cymhwyso i ogoniant yn y nefoedd. Oscyfodasoch gyda Christ. y mae yn annaturiol i chwi geisio y pethau sydd isod. Pa- nam yr ydych yn ceisio y byw yn mysg y meirw ? Y mae Crist wedi adgyfodi ; y mae wedi esgyn ; y mae yn awr yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Hwn yw yr ymresymiad : " Am hyny, os cyd-gyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist ar ddeheulaw Duw." I. Y mae yn bechadurus eu gwrtho d. 1. Y mae eu pryniad yn ddrud. Nid â phethau llygredig, megys arian neix aur, y cawsant eu prynu i ni, ond â gwerthfawr waed Crist. Y mae Duw yn gosod mwy, anfeidrol fwy, o werth ar waed Crist nag y mae yn ei osod ar ddim arall yn ei lywodraeth. Nis gallasai dim ond angeu Crist ddwyn bywyd i ni. " Nid oes iachawdwriaeth yn neb arall." Yr oedd yn rhaid i Grist ddyfod dan y ddeddf cyn y buasai yn bosibl i ni oedd dan y ddeddf gael ein prynu, a dysgyn i'r bedd yn íarw i'n codi ni yn fyw. Ni a bech- asom yn erbyn Duw, ni a dynasom arnom ein hunain ei ddigofaint; ond yn Ue ein cospi byth dan ei soriant cyfiawn, efe a roddodd ei uniganedig Fab, yn ei gariad anfeidrol, i farw drosom, er mwyn i ni gael byw. Yr oedd yn rhaid cael aberth yn iawn i gyfiawnder. Trwy yr iawn y mae Duw yn egluro ei hun, pan y mae yn maddeu pechod ac yn cymeradwyo pechadur. Oni buasai trefn yr iawn, y mae yn ymddangos nas gallasai Duw ddyfod yn un a ni mewn cyfamod newydd ; buasaieinprawfwedidarfod, ein gobaith wedi trengu, a'r holl gyf- undrefn ag sydd yn cynwys ein hawliau presenol wedi methu. Nis gallwn lai nag edrych ar gynllun achub fel mesur mawr cyfreithiol o eiddo Duw yn Nghrist, trwy yr hwn y mae efe wedi 28