Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. Ctfubs XXI.] HYDREF, 1882. [Rhif. 242. PREGETH. Gan H. Llotd, Bwlchyllan. '' Rhodiwn yn weddus mesjys wrth liw dydd, nid mewn cyfeddach » meddwdod."—Rhuf. xrn. 13. fMAE yr apostol, ar ol bod yn y rhanau cyntaf o'r epistol hwn yn traethu yn helaeth ar y pwnc pwysig o gyfiawnhad peehadur gerbron Duw, a hyny trwy fiydd yn nghyfìawnder Crist yn unig; y mae yn y rhan olaf o hono yn dyfod at ddyledswyddau ymarferol crefydd; ac er fod yr apostol yn cau allan yn hollol weithredoedd,fel sylfaen cyfiawn- had, er hyny y mae yn dangos yn amlwg fod cysylltiad agos rhyngddynt. Er nad yw gweithredoedd yn sylfaen cyfiawnhad, y maent yn effeithio hyny. Y mae rhai wedi myned mor bell a meddwl fod yr epistol at y Rhufeiniaid ac epistol Iago yn myned yn groes i'w gilydd— bod y cyntaf yn dweyd mai trwy ffydd yn unig y mae pechadur yn cael ei gyfiawnhau gerbron Duw, a bod yr ulaf yn dweyd mai trwy weithred- oedd y mae hyny yn cymeryd lle. Ond wrth sylwi yn fancl, y mae yn amlwg mai nid dweyd fod gweithredoedd yn sylfaen cyfiawnhad y mae Iago, ond eu bod yn effaith cyfiawnhad, fod y naill yn canlyn y llall. Ac felly y mae y adau apostol yn hollol gyson a'u gilydd. Ac er mai prif bwnc yr apostol Paul Jn yr epistol hwn yw cyfiawnhad ya egiur fod dyledswyddau neillduol ac arbenig yn orphwysedig ar bob gwir ẅistion ì'w cyflawnu. Ac y mae yr aanodau hyn yn cynwys amryw o °?H megys bwrw ymaith weith- reüoedd y tywyllwch, a gwisgo arfau y f;™.ejnV,rhodio y^ weddusmegys wrth iTÌydd'&c- A cQyn gaUu rhodio 7* ífî^^megys wrth liw dydd, y mae yn rùaid ymgadw oddiwrth gyfeddach l^edàwdod, cydorwedd ac anUad- *W cynen a chenfigen. A'rrheswm ^^r sydd yn cael ei ddefnyddio gan yr apostol yma fel sylfaen cymhelliad i'r anogaeth yw, fod y nos wedi cerdded yn mhell, a bod y dydd yn neêhau. Y mae y geiriau nos a dydd yn cael eu defnyddio mewn mwy nag un y«tyr yn y ÖeibL Weithiau y maent yn cael eu defnyddio i o«od all»n dydd a nos mewn ystyr naturiol; bryd arall y maent yn cael eu defnyddio mewn yatyr ffigyrol, megys yn y geiriau hyny, " Chwychwi oll púnt y goleuBÌ ydych, a phlant y dydd ; nid ydym ni o'r nos nac o'r tywyllwch ; am hyny na chysg- wn fel rhai ereill, eithr gwyiiwn a byddwn sobr." Ond y tebygolrwydd yw fod y gair nos yn y fan hon yn golygu sefyllfa dywyil ac anmherffaith credinwyr yn y byd hwn, yn wrth- gyferbyniol i'r sefyllfa berffaith a gwynfydedig fydd yn eu haros yn y byd a ddaw, yr hon sefyllfa elwir yma yn ddydd—"A'r dydd a neshaodd." Wrth gysoni yr adnod yma â'r cyd- destyn, yr ydym yn gweled yn Ued eglur mai dyna yw meddwl y geiriau hyn, oblegid yn yr adnod lleg y mae yr apostol yn dweyd fod eu hiachawd- wriaeth yn nes na phan gredasant. Ac wrth feddwl eu bod yn agoshau mor gyfl.ym at fyd arail, nid oeddyr un cyngor mwy cymhwys a phriodol i gael ei roddi iddynt na'r cyngor am barotoi ar gyfer byd arall. A chan ein bod ninau, fel y Rhufeiniaid gynt, yn agoshau yn gyflym at fyd aralJ, y mae y cyngor yn hynod o briodol i ninau-— "Bwnwn oddiwrthym weithredoedd y tywyllch, a gwisgwm arfau y goleuni," &c. Ac yr ydym yn cael darnodiad o'r arfau ac o r arfogaeth yn, ac â pha rai y mae y Cristion i ymladd yn y rhyfel ysbrydol, yn y 6fed benod o'r epistol at yr Ephesiaid. Ac y mae yn rhaid 25