Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gylchgrawn. CíFHES XXI.] MEDI, 1882. [Rhif. 241. PREGETH GYDA GOLWG AR YR YSGOL SABtíOTHOL. Gan yr Hybarch D. Hughes (Ynys), Llanelli. " A hwy a ddysgasant yn Judah, a chyda hwynfc yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd; felly yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Judah, ac y dysgasant y faobl."—"2 Chron. xvii. 9. m. AE y geiriau yn gynwysedig /p\ yn hanes y Brenin Jehosaphat, ŵ^- y pedwerydd brenin ar Judah wedi i'r freniniaeth gael ei rhanu ar ol dyddiau Solomon. Yr oedd brenin- oedd Judah, neu y deg llwyth o amryw lwythau, yn 19 o riíedi. Nid oedd yr un o honynt yn dduwiol. Jeroboam, mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel beehu, oedd y cyntaf o honynt; ac yr oedd amryw o honynt yu waeth nag ef. Nid oedd ond pump neu chwech o fren- inoedd Judah (yn 20 o rifedi) yn ddyn- ion da : yr oeddent oll o lwyth Judah, ac o deulu Dafydd, o'r hwn yr oedd y Messiah i ddyfod. Yr oedd Jehosa- phat yn un o'r goreu o honynt. Yr hyn fu yn niwed icldo ef oedd ei waith yn ymgyfathrachu âg Ahab, brenin Israel, trwy gymeryd Athaliah, merch Ahab a Jezebel yn wraig i'w fab. Dyg- odd hyny farn drom ar ei dy wedi iddo ef íarw. (2 Chron. xxii. 10.) Yn y drydedd fiwyddyn o'i deyrnasiad, fe osododd ddysgawdwyr yn Judah i ddysgu cyfraith yr Arglwydd i'r bobl. Pump o swyddogion, mewn ystyr wlad- wriaethol, fel magistrates ; naw o Leí- iaid, fel athrawon, er dysgu crefydd iddynt; a dau offeiriad, fel arolygwyr. Yr oedd hyny yn gyson â gosodiad Duw Israel. (Deut. xxxiii. 10; Mal. ü. 4—7.) "A hwy a ddysgasant yn Judah, a chyda hwynt yr oedd Uyfrau cyfraith yr Arglwydd"—llyfrau Moses, ??:»~" feHy yr amgylchasant hwy holl ddinasoedd Judah, ac y dysgasant y bobl." Yr oedd eu gwaith fel yn gyn- Uun o bregethu teithiol trwy'r holl wlad: neu ynte, o waith athrawon yr «sgolion Sabbothol. Ni a wnawn gyfyngu ein sylwadau at yr Ysgolion Sabbothol. Dysgu yw gwaith y pregethwr, neu y gweinidog. "Ao Efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt." " Gan rybyddio pob dyn, a dysgu pob dyn, yn mhob doethineb." Hyny oedd gwaith y Lefiaid a'r otfeiriaid a enwir yma. " A chyda hwynt yr oedd llyfr cyfraith yr Arglwydd." Y mae yr holl lyfr yn gyfan a chyíiawn genym ni; a dysgu ynddo yw ein gwaith ninau. Sylwn,— /. Fod yr Ysgol Sabbothol yn sef- ydliadcrefyddol i ddysgu crefydd allan o Lyfr Duvj, a Ùum Lywyddiaeth Egltoys Dduw. Mae darllen a gwrandaw y Gair, gweddio, canu mawl, dysgu ac egwydd- ori yn y Gair, yn ordinhadau Dwyfol; neu yn foddion gras, er ein cynorth- wyo i addoli Duw. Gan hyny, y mae yn sefydliad crefyddol. Mae yn ddyledswydd, yn y Ue cyn- taf, ar y rhienì naturiol i ddysgu eu plant yn deuluaidd. Dywed yr Ar- glwydd am Abraham,—"Mi a'i had- waen ef, y gorchymyn ef i'w blant, ac Vw dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd." (Gen. xviii. 19.) "Deuwch, blaut," medd y Salmydd, " gwrandewch arnaf: dysgaf i chwi ofn yr Arglwydd." (Salm. xxxiv. 11.) " Canys Efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn IsraeJ, y rhai a orchymynodd Efe i'n tadau eu dysgu i'w plant: fel y gwybyddai yr oes a ddôl, sef y plant a enid ; a phan gyfodent, v mynegent hwy i'w plant hwythau." (Salm lxxviii. 5,6.) "Gwran- dewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall; canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda; na wrth- odwch fy nghyíraith," medd Solomon. A Hezeciah a ddywedai yn ei gân 22