Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. Cyfbes XXI.] AWST, 1882. [Rhif. 240. YSBRYDOLIAETH YR YSGRYTHYRAU. "N gyntaf.—Ẅrth ysbrydoliaeth yr Ysgrthyrau y meddylir y dylanwad dwyfol hwnw oedd yn gweithredu ar feddyliau ysgrifen. wyr y Beibl, er eu cymhell i ysgrifenu^ i'w cádw rhag gwyro wrth fyned yn' mlaen a'r gorchwyl, ac er sicrhau fod y cwbl a gofnodid ganddynt yr hyn a fynai Duw ei drosglwyddo, trwy eu hysgrifeniadau, i'r oesoedd a ddeuai hyd ddiwedd amser. Yn ail.—Y mae duwinyddion yn gyffredin yn dewis cyfyngu ysbrydol- iaeth i'r dylanwad goruwchnaturiol hwnw, oedd yn cymhwyso y dynion santaidd hyn i fod yn gyfryngau priod- ol i drosglwpddo gwirioneddau'r Beibl i ereill, gan adael ailanyr hyn oedd yn eu gwaeyd yn gymhwys i dderbyn y gwirioneddau hyny idd eu meddyliau eu hunain. Felly y maent yn dewis gwahaniaethu rhwng Ysbrydoliaäh a Dadguddiad. Y mae rhai o'r rhai sydd yn credu mewn dadguddiad yn gwadu ysbrydoliaeth. Y mae ysbryd- oliaeth yn tybied y gwirionedd wedi ei ddadguddio yn flaenorol, trwy ryw gyfrwng neu güydd, i feddwl yr hwn oedd wedi ei ysbrydoli gan Dduw i'w drosglwyddo i'r byd. Mae yn bosibl nad ydyw y rhaniad hwn yn gyfryw nas gellir codi gwrthdadl ýn ei erbyn, er hyay yrydym yn tybied ei fod yn symud Ûawer o rwystrau oddiar y ffordd, fel i'n galluogi i siarad yn fwy eglur ar' y pwnc, na phe baem yn myn'd yn mlaen heb dalu un sylw i'r rhaniad hwn sydd yn cael ei wneuthur rhwng ysbrydoliaeth a dadguddiad. Heblaw hyny, pe baem yn dibrisio y rhaniad yma, fel peth diles ac anghywir hollol, byddem wrth hyny yn taflu o'r neüldu y cymhorth a allem gael oddi- wrth lafur ac ymchwiliadau y prif dduwinyddion ar y cwestiwn, oblegid mai yn y wedd yna y maent wedi bod yn trm yr athrawiaeth. Am hyny, er na ddylem ddal at hen ddull oblegid ei fod yn hen yn unig, dylem lynu wrth yr hen os na fydd y manteision o'i newid yn gorbwyso y rhai a fwynheir wrth lynu wrtho. Trefh dadblygiad athrawiaethau Ciist'nogaeth trwy'r oesau ydyw, fod y naill oes yn myned i mewn i lafur yr oesau blaenorol o hyd, ac yn cywiro yr hyn oedd gamsynicl, ac yn gwella yr hyn oedd ddiffygiol yn eu 8yniadau, ac nid yn dymchwelyd eu cyfundraethau yn hollol, ac yn gosod sylfeini rhai ereill hollol new- yddion i lawr; pe felly ni fyddai'r byd fawr yn nes at beffeithrwydd yn awr nag yr oedd filoedd o flynyddoedd yn ol. Felly mewn perthynas i ysbrydol- iaeth; pe cymerem gynllun hollol new- ydd i egluro yr athrawiaeth, byddai yn rhaid newid meddwl geiriau, a chym- eryd brawddegau cyfarwydd, y rhai y mae eu hystyr wedi ei hen benderfynu gan arfenad, mewn cysylltiadau hollol newyddion, yr hyn a achosai gymysgfa annealladwy; ond trwy ddilyn yr hen lwybr y cyfeiriwyd ato yr ydym yn gobeitblo gosod y gwirionedd ailan gyda mwy o eglurder. Hefyd, nid ydyw ysbrydoliaeth a dadguddiad yr un o ran eu helaeth- rwydd. Mae dadguddiad yn golygu mynegiad o feddwl Duw mewn modd goruwchnaturiol: ysbrydoliaeth, tros- glwyddiad goruwchnaturiol o'r meddwl hwnw i'r Dyd. Gallwn yn hawdd dybied dadguddiad i bersonau neill- duol yn cymeryd lle, nad oedd yn per- thyn i neb ond hwy eu hunain, heb fod un gorchymyn dwyfol yn cydfyned ag ef yn eu hawdurdodi i'w ddweyd wrth neb arall. Y cyfryw a fyddai ddad- guddiad heb ysbrydoliaeth. Diamheu fod llawer o ddywediadau yr Iesu, y dywed na chynwysai llyfrau'r byd mo hónynt,yn ddadguddiad, ond m rodd- wyd ysbrydoliaeth i'w cofnodi. O'r ochr arall, y mae dadguddiad union- gyrchol yn gyfyngedig i ranau neillduol o'r BeibL Er mewn ystyr arall y mae 19