Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. [Cini, XXI. GOEPHENAF, 1S82. "Ühif. 2^9. iun DÜW YN LLEFARU YN EI FAB. Gan y Paech. Rees Moegan, Llwy^pia. " Dnw, wfdi iddo lifaru lawer gwaith a llawer modd Rynt wrth y tadan trwy y proffwydi, yrj y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrihym ni yn ei Fab."—Bebreaid i. 1. MCAN yr Epistol hwn ydoedd cadarnhau >r Iuddewcn Ci ist- ionogol yn y ffydd, a hyny trwy ddangos iddynt ragoriaeth Crist- ionogaeth ar Iuddewaeth. Nid yw yr awdwr wrth gyrbaedd eiamcan yn tynu i lawr ddim a berthynai i oruchwyl- iaeth Moses, ond yn hytrach yn eu codi. Yr oedd yr awdwr hwn yn ormod o logician i syrthio i'r camwri o geisio dyrchafu y naill ar draul darostwng y llall. Felly y gwneir yn aml os byddir am godi un yn uwch na rhyw un arall, ceisir gwneyd hyny ar draul darostwng yr hwn a gyferbynir ag ef i'r llwch os medrir ; ond cynllun hynod o aneffeith- iol i gyrhaedd yr amcan mewn golwg ydyw, oblegid pa orcbest fawr ydyw bod yn fwy na chorach, neu pa glod anghyífredin ydyw rhagori ar y gwael î Ond os gellir profi un yn fwy nag un arall mawr, yn well nag un arall da, byddir felly yn ei brofi yn fawr a daionus mewn gwirionedd ; felly y gwna yr awdwr yma wrth gydmaru Iuddewaeth a Christionogaeth. Nid yw yn amcanu yn y cyferbyniad i guddio dim ar ogoniant yr Hen Gyf- amod. Gwneir cyfeiriadau parhaus ganddo at y proffwydi, yr angelion, Moses a# 4aron, ac at y manylrwydd a'r cysegredigrwydd a berthynai i'r addoliad o dan yr Hen Destament. Y mae yn hawdd gwybod mai un oedd yn deall y trefniant Iuddewig yn dda oedd yr awdwr, ac yn meddwl yn uchel am dano. Ond er mor ogone'ddus yr ymddangosai luddewaeth iddo, ac er cymaint ei barch ati, nid yw er hyny yn petruso dweyd fod Cristionogaeth yn tra rhagori arni. Ac yn nghynwys yr Epistol ryfoethog hwn y mae nid yn unig yn honi rhagoriaeth Cristion- ogaeth ar Iuddewaeth, ond yn profi ei osodiad trwy gadwen o'r rhesymau mwyaf llwyr a meistrolgar. Disgyna ar unwaith ar ei fater trwy ddangos rhagoriaeth y Mab ei hun fel cyfrwng datguddiad ar yr holl gyfryngau a ddefnyddid gan Dduw i egluro ei feddwl i'r byd "yn y dyddiau gynt." Gweision oeddynt gyfryngau yr Hen Destament, galluog ac urddasol iawnr y mae yn wir; ond y Mab ei hun, " yr hwn a wnaeth Efe yn etifedd pob petb, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth Efe y bydoedd; yr Hwn, ac efe yn ddys- gleirdeb ei ogoniant Ef, ac yn wir lun ei Berson Ef," ydyw cyfrwng y dat- guddiad o dan yr Efengyl. Cydneb- ydd yr awdwr fawredd ac urddas yr angylion, ac y derbynient barch a math o addoliad gan y genedl, ond dengys y Mab yn ddigon mawr i fod yn wrth- ddrych addoliad angylion. "A thra- chefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf- anedig i r byd y mae yn dywedyd, Ae addoled holl angelion Duw Ef." Gwneir cyfeiriadau mynych ganddo at yr offeir- iadaeth, ond dengys na lanwodd neb y syniad o offeiriad nes i Grist aberthu ei hun. Cysgod pethau daionus i ddyfod oedd yr Hen Oruchwyliaeth, yn dangos i'r byd fod y sylwedd yn dilyn, fel goleuni dwl a gwanaidd y lloer yn rhagarwyddo goleuni mwy dysglaer yr haul i dywynu ar y ddaear. Yn y modd hwn y mae yr awdwr trwy gyferbyniad medrus yn tynu y casgliad, y rhaid fod Cristionogaeth yn tra rhagori ar Iuddewaeth, oblegid ei symîrwydd, ei hysbrydolrwydd, a'i chyflawnder, a'i bod felly yn llawer rhagorach fel cyfundrefn o grefydd iddynt hwythau i'w mabwysiadu. Gellir edrych gan hyny ar yr adnod 17