Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cylchgrawn. [ChFiiEs XXI. MEHEFIN, 1882. [Rhif. 238. DAMEG Y GWEITHWYR YN Y WINLLAN. Mat. xx. 1—16. Gast y Parch. W. M. Lewis, Tyllwyd. ^YWED Archesgob Trench am y ddameg hon, " Ei bod yn ail yn unig i ddameg y goruch- wyliwr anghyfiawn, yn nifer yr esbon- iadau gwahanol sydd wedi eu cynyg arni, fel y mae hefyd yn ail iddi, os yn hyn yn ail, yn yr anhaws- derau syid yn nglyn a hi." Y mae y geiniog yn golygu, yn ol rhai esbonwyr, bywyd tragywyddol; yn ol ereill, gwobrau cyffredinol teyrnas nefoedd. Ystyr yr oriau ar ba rai yr â Arglwydd y winllan i gyfìogi y gweithwyr, yn ol rhai esbonwyr, ydyw gwahanol adegau bywyd dyn ; yn ol ereill, gwahanol gyfnodau yn hanes yr Eglwys dan yr Hen Destament. Bydded i r darllen- ydd aros enyd gyda'r eglurhad di- weddaf hwn, i ddychymygu pa fodd y gellir tybied fod Noah, Daniel^ a Job, yn nghyd ag ereill o dduwiolion yr Hen Oruchwyliaeth, yn grwgnach yn erbyn gwr y tŷ, ac yn cenfigenu wrth y rhai a gyfiogasid ar yr unfed awr ar ddeg, sef yr apostolion, ac fe fydd ganddo ddirnadaeth bur dda am y pellderau y buwyd yn myned iddynt wrth esbonio yr Ysgrythyrau, ac yn neillduol y damegion. Yn ol rhai esbonwyr, y rheswm pa- ham y mae y rhai a weithiasant ond un awr, yn gystal a'r rhai a weithias- ant ddeuddeg, yn derbyn pob un gein- 10g> ydyw fod y cyntaf wedi gweithio mor egniol, nes cyfìawnu cymaint o Waith yn yr un awr, ag a wnaeth y ueill yn y deuddeg. Yn ol y golygiad hwn, diogi ydyw yr hyn a anghymer- adwyir yn y ddameg, ac nid cenfigen a grwgnach. " Cymer yr hyn sydd eiddot, a dos ymaith." Y cymhwysiad sydd i'w wneyd o'r geiriau hyn, medd rhai esbonwyr, ydyw, " Cymer y ddamned- igaeth a berthyn i ti, ag sydd yn gyf- iawn gosb arnat am dy falchder a'th anfoddogrwydd." Yn ol ereill, dangos y mae y rhan hon o'r ddameg, y syn- dod cymeradwyol a fydd yn meddianu rhai o'r cadwedigion, pan y gwelant y safie uchel ac annysgwyliadwy a gyr- haeddir gan ereill o'u brodyr, a gyfrifid yn wael a dystadl yma. Nid ydyw Trench yn foddlon i un o'r ddau esboniad hyn, a chynygia y canlynoì yn eu lle ; " Y mae y rhan hon o'r ddameg i'w hesbonio fel pe dywedasid, " gan nad ellwch dybied y fath ysbryd ag a ddarlunir yma, ac a deimlwch sydd mor bechadurus ac atgas, yn cael lle yn nheyrnas berffeithiedig Duw, yna rhoddwch atalfa ar ei ysgogiadau dechreuol, ataliwch bob tuedd i edrych yn genfigenus ar eich brodyr, y rhai mewn amseroedd gynt a ymadawsant oddiwrth Dduw, ond yn awr ydynt wedi cael lle yn eich ymyl yn ei deyrnas." O'r braidd y mae yn fwy boddhaol cael ein hysbysu, fod y rhan bwysig hon o'r ddameg yn ddarluniad o ysbryd "nasgellireidybied." Gwna yr Awdwr hwn eto, yn mhellach yn mlaen, y sylw canlynol: " Os y gwelediad o- Dduw fydd yn gwneyd i fyny wynfyd- edigrwydd y byd a ddaw, yna y rhai y byddo eu llygaid ysbrydol yn fwyaf goleuedig, a yfant helaethaf o'i ogoniant. . . . . Yn yr achos hwn lle y mae balchder, cenfigen, ac hunanoldeb wedi cael lle, yn tywyllu llygaid y galon," &c. Os oes ystyr i hyn yn ei berthynas a'r ddameg hon, y mae yn awgrymu y bydd yr ysbryd grwg- nachus a ddarlunir ynddi, mewn rhai, yn anmharu eu mwynhâd o Dduw yn nedwyddwch y nefoedd. Heb son am wrthuni y dybiaeth hon, nis gallwn weled pa fodd y gellir cysoni y ddau ddyfyniad uchod a'u gilydd. Gwasanaethedyr uchodfel esiampltm